Yr Holocost a Chymru: Kristallnacht 2

621 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil, a fu’n byw yng Nghymru, o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.

Delwedd uchod: Golygfa fewnol o Synagog ddrylliedig Fasanenstraße, Berlin, a losgwyd yn ystod Pogroms Tachwedd, Tachwedd 1938. Center for Jewish History, New York City. Trwy garedigrwydd Leo Baeck Institute.

 

Kristallnacht 2: Y bar mitzvah olaf

Yn dilyn ymlaen o Kristallnacht 1, mae’r ail wers hon yn archwilio hanes Julius Weil o’i bar mitzvah, yr olaf i ddigwydd yn Synagog Glockengasse cyn iddi gael ei dinistrio yn ystod Kristallnacht. Bydd myfyrwyr yn archwilio effaith y digwyddiad hwn mewn ffordd greadigol, gan gynhyrchu eu gosodwaith bach eu hunain.

 

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cyfnod Allweddol 4

Hanes, Sgiliau llythrennedd

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o ddau ar y testun 'Kristallnacht’. Dyma ddolen i'r adnodd arall yn y gyfres hon:

Kristallnacht 1

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

Kristallnacht_L2_Cynllun_Gwers.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Kristallnacht_L2_Tasg_Grŵp.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Kristallnacht_L2_Lesson_Plan.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Kristallnacht_L2_Group_Task.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw