Skip to main content

Yr Holocost a Chymru: Ffoaduriaid Iddewig yn Lluoedd Arfog Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Yn y adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am ffoaduriaid Iddewig a ymunodd â lluoedd arfog Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd llawer o filwyr Iddewig a fu gynt yn ffoaduriaid yn gwasanaethu yng Nghymru.

Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar gan dri ffoadur Iddewig, a wasanaethodd ym Myddin Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Delwedd uchod: X Troop yn Aberdyfi, 1943. Llun trwy garedigrwydd Colin Anson. Cydnabyddiaeth y Llun: Commando Veterans Archive. Trwydded Creative Commons: https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/.

 

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cwricwlwm i Gymru

Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

.

You must be logged in to leave a comment