Telerau ac Amodau Defnyddio

Y Cytundeb

Y telerau ac amodau canlynol yw'r rhai y mae pob un o'r Sefydliadau sy'n Cyfrannu ('ni' 'ninnau' ' ein ') i brosiect Casgliad y Werin Cymru yn eu cynnig er mwyn sicrhau hygyrchedd i chi i'r ddeunydd a geir ar y wefan hon
(' y Gwasanaeth '). Mae'r cynnig hwn yn amodol ar eich bod yn cytuno â'n holl delerau ac amodau a nodir yma, gan gynnwys eich cydymffurfiad â pholisïau, canllawiau a thermau a gysylltir drwy URLs yn y Cytundeb hwn,
ac yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r Drwydded Archif Greadigol (gyda'n gilydd 'ein Telerau Ac Amodau Gwasanaeth').

Drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth neu drwy ddefnyddio unrhyw gyfle a roddir i gyrchu rhannau ohono, rydych yn derbyn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth ac yn cytuno i gael eich rhwymo ganddynt. Dim ond yn gydnabyddiaeth am eich penderfyniad i dderbyn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth a chadw atynt yr ydym yn rhoi’r caniatadau a nodir isod i chi. Os nad ydych yn cytuno â’n Telerau ac Amodau Gwasanaeth rhaid ichi beidio â defnyddio’r Gwasanaeth ac ni chaniateir ichi ei gyrchu na’i ddefnyddio.

Gallwn ddiwygio’n Telerau ac Amodau Gwasanaeth unrhyw bryd yn unol â’n disgresiwn ni yn unig, a daw’r diwygiadau i rym pan godwn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth diwygiedig ar Wefan Casgliad y Werin Cymru. Wedi hynny, bernir eich bod drwy barhau i gyrchu’r Gwasanaeth a’i ddefnyddio yn cytuno i’r Telerau ac Amodau Gwasanaeth diwygiedig. Ni fyddwn ninnau yn derbyn amrywiad ar ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth, gwrthgynnig yn eu lle nac unrhyw amrywiad ar ddiwygiad a wnawn o dro i dro na gwrthgynnig yn lle’r amrywiad hwnnw.

1. Y Gwasanaeth

1.1 Cymuned ar-lein yw Casgliad y Werin Cymru lle gall y defnyddwyr rannu eu syniadau a’u profiadau ynglŷn â’r casgliadau at eu dibenion creadigol nhw eu hunain. Gall y defnyddwyr chwilio ar draws casgliadau Amgueddfa Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Culturenet Cymru, ac amgueddfeydd, archifau, orielau a llyfrgelloedd sy’n cyfrannu at Brosiect Casglu’r Tlysau a phrosiectau eraill gan Culturenet Cymru, gan ganfod yr hyn sy’n eu hysbrydoli. Gall y defnyddiwr drefnu’r eitemau y byddan nhw’n eu canfod drwy chwilio neu eitemau y maent wedi’u huwchlwytho eu hunain; boed ar ffurf testun, delweddau, fideos neu ddolenni gwe, ac yn ymdrin â phopeth o beintiadau i hanes teuluol. Gall yr eitemau gael eu trefnu ar ffurf stori, casgliadau, themâu a/neu erthyglau nodwedd. Gall defnyddwyr Casgliad y Werin Cymru greu cysylltiadau â phobl sydd â diddordebau tebyg a ffurfio grwpiau cymuned ar-lein ar bynciau penodol gydag amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd a hynny fel man parhaol ar gyfer creadigedd a chyfathrebu.

1.2 Rydych yn cydnabod mai caniatáu i bobl ryngweithio ar-lein ar bynciau a chynnwys a ddewisir gan ddefnyddwyr y Gwasanaeth yw ein diben ni wrth ddarparu’r Gwasanaeth, ac y caiff defnyddwyr ddefnyddio’r Gwasanaeth i ryngweithio ar sail amser real. Rhan annatod o natur y Gwasanaeth yw na allwn ni reoleiddio’n barhaus, ac na wnawn ni reoleiddio’n barhaus y cynnwys/cyfathrebu a grëir ac y trefnir eu bod ar gael gan ddefnyddwyr y Gwasanaeth. O ganlyniad i hyn, cyfyngedig yw ein gallu i fonitro ansawdd, moesoldeb, cyfreithlondeb, geirwiredd neu gywirdeb amrywiol agweddau’r Gwasanaeth.

1.3 Rydych yn cydnabod: (a) y cewch chi, drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, gyrchu graffeg, delweddau, effeithiau sain, cerddoriaeth, fideo, sain, rhaglenni cyfrifiadur, animeiddiadau, testun ac allbwn creadigol arall (“Cynnwys”); a (b) y gall Cynnwys gael ei ddarparu gennym ni neu gan eraill megis defnyddwyr y Gwasanaeth (“Darparwyr Cynnwys”).

1.4 Rydych yn cydnabod bod gan Ddarparwyr Cynnwys hawliau yn eu priod Gynnwys o dan ddeddfau hawlfraint a deddfau cymwys eraill, ac nad yw’r hawliau hyn yn cael eu trosglwyddo na’u trwyddedu i chi, ac eithrio fel y darperir yn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth. Rydych yn derbyn cyfrifoldeb ac atebolrwydd llawn dros y modd y byddwch yn defnyddio unrhyw Gynnwys yn groes i unrhyw hawliau o’r fath ac rydych yn cytuno nad yw’ch penderfyniad i greu Cynnwys yn cael ei seilio mewn unrhyw fodd ar unrhyw ddisgwyliad ein bod ninnau’n amddiffyn eich hawliau chi.

2. Trwyddedau a Hawliau Eiddo Deallusol

2.1 Yn ddarostyngedig yn llwyr i bob darpariaeth arall yn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth, rydym yn rhoi ichi drwydded nad yw’n unigryw ac nad yw’n rhoi breindal i gyrchu a defnyddio’r Gwasanaeth ac i ddefnyddio’r Cynnwys yn y Gwasanaeth, sef trwydded a all gael ei dirymu gennym ar unrhyw bryd.

2.2 Oni nodir fel arall, gall Cynnwys sy’n perthyn i ni neu a drwyddedir i ni fel rhan o’r Gwasanaeth gael ei ddefnyddio gennych chi at ddibenion ymchwil anfasnachol neu at ddibenion astudio preifat yn unig a hynny o dan delerau’r Drwydded Archif Greadigol a welir ar ein gwefan. Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig i ni am unrhyw ganiatâd i ddefnyddio’n Cynnwys at ddibenion pellach.

2.3 Ni all Cynnwys sy’n perthyn i ni neu a drwyddedir i ni fel rhan o’r Gwasanaeth gael ei addasu, ei drin na’i newid mewn unrhyw fodd gennych chi.

2.4 Cewch greu Cynnwys yn y Gwasanaeth ar amryw o ffurfiau. Rydym yn cydnabod ac yn cytuno, yn ddarostyngedig i’n Telerau ac Amodau Gwasanaeth, eich bod yn cadw unrhyw a phob hawlfraint ac unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill o ran unrhyw Gynnwys y byddwch yn ei greu drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, i’r graddau y mae gennych chi hawliau o’r fath o dan y gyfraith sy’n gymwys.

2.5 Er gwaethaf yr uchod, rydych yn deall ac yn cytuno eich bod, drwy gyflwyno’ch Cynnwys i unrhyw ran o’r Gwasanaeth, yn awtomatig yn rhoi (ac yn honni ac yn gwarantu bod gennych yr hawl i roi) i ni: (1) trwydded barhaol ddi-alw yn ôl, nad yw’n unigryw ac nad yw’n rhoi breindaliadau: (a) i ddefnyddio, atgynhyrchu a chyfleu’ch Cynnwys yn y Gwasanaeth a hawl i isdrwyddedu defnydd o’r fath i ddefnyddwyr y Gwasanaeth cyhyd ag y defnyddir y Cynnwys gan unrhyw ddefnyddiwr yn y Gwasanaeth o dan delerau’r Drwydded Archif Greadigol.

2.6 Rydych yn cytuno eich bod, drwy gyflwyno’ch Cynnwys i unrhyw ran o’r Gwasanaeth, yn awtomatig yn rhoi i ddefnyddwyr y Gwasanaeth sy’n dymuno defnyddio’ch Cynnwys neu rannau ohono y tu allan i’r Gwasanaeth drwydded barhaol ddi-alw yn ôl, nad yw’n unigryw ac nad yw’n rhoi breindaliadau, i ailddefnyddio’ch Cynnwys at ddibenion anfasnachol neu at ddibenion astudio preifat yn unig yn unol â thelerau’r Drwydded Archif Greadigol.

2.7 Rydych yn cytuno nad yw’r cyfrif y byddwch yn ei ddefnyddio i gyrchu’r Gwasanaeth yn perthyn ichi, ac nad yw unrhyw ddata a gyflwynir gennych ac y gallwn ei storio ar ein gweinydd neu y gall eraill ei storio ar ein rhan yn perthyn i chi a hynny er y gallwch gadw’r hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol penodol eraill o ran y Cynnwys y byddwch yn ei greu tra byddwch yn defnyddio’r Gwasanaeth.

2.8 Drwy dderbyn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth rydych yn ildio pob “hawl foesol” fel y’i gelwir o ran Cynnwys y byddwch yn ei greu wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth.

3. Rheolau’r Gymuned

3.1 Rydych yn cytuno na fyddwch yn cymryd unrhyw gamau i uwchlwytho, postio, e-bostio na thrawsyrru mewn modd arall Gynnwys:

(a) sy’n torri hawliau eiddo deallusol trydydd parti;

(b) y gwyddoch ei fod yn anwir neu’n anghywir;

(c) sy’n gyfystyr â thor-ymddiriedaeth cyfreithadwy neu sy’n torri hawliau preifatrwydd unrhyw drydydd parti;

(d) sy’n anllad neu sy’n difenwi unrhyw berson;

(e) sy’n eich cynnwys chi wrth bersonadu unrhyw berson, cydweithfa neu endid heb eu cydsyniad;

(f) sy’n datgan yn ffug neu sydd fel arall yn camliwio’ch cysylltiad ag unrhyw berson, cydweithfa neu endid;

(g) sy’n trin unrhyw berson, testun neu sefydliad sy’n gysylltiedig â’r Cynnwys mewn modd gwamal, cyffrogarol neu ddiraddiol; neu

(h) sy’n torri unrhyw rai o gyfreithiau neu reoliadau Cymru a Lloegr neu sy’n amhriodol mewn modd arall.

3.2 Rydych yn cytuno na fyddwch yn dileu unrhyw ddyfrnod digidol, llinell gydnabod na mesur amddiffyn technegol arall a ddefnyddir mewn cysylltid â’r Cynnwys.

3.3 Rydych yn cytuno na fyddwch yn hacio’r Cynnwys sy’n cael ei gadw gan y Gwasanaeth, yn ymyrryd ag ef nac yn ei dynnu.

3.4 Rydych yn cytuno y cawn ni gymryd pa gamau bynnag y barnwn eu bod yn angenrheidiol yn unol â’n pŵer a nodir yn nheler 4.2 isod os byddwn ni, yn unol â’n disgresiwn ni yn unig, o’r farn bod unrhyw Gynnwys a ychwanegwyd gennych at y Gwasanaeth yn torri unrhyw rai o ddarpariaethau teler 3.1 uchod.

4. Rhyddhau, Nacáu Gwarantau, Cyfyngu Rhwymedigaeth ac Indemnio

4.1 Fel un o amodau cyrchu’r Gwasanaeth, rydych yn ein rhyddhau ni rhag hawliadau, galwadau, iawndaliadau o bob math a natur, sy’n hysbys ac yn anhysbys, a amheuir neu nas amheuir, a ddatgelwyd neu nas datgelwyd, ac sy’n codi o unrhyw anghydfod sydd gennych, a all fod gennych yn y dyfodol neu y gallech hawlio ei fod gennych gydag unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y Gwasanaeth neu sy’n gysylltiedig ag anghydfod o’r fath. Rydych hefyd yn deall ac yn cytuno y bydd gennyn ni’r hawl ond nid y rhwymedigaeth i gyfryngu i ddatrys anghydfodau rhwng defnyddwyr ynglŷn â’r Gwasanaeth.

4.2 Gall unrhyw Gynnwys, neu ddata arall, sydd ar ein gweinyddion neu sydd yn y Gwasanaeth gael ei ddileu, ei addasu, ei symud neu ei drosglwyddo unrhyw bryd am unrhyw reswm yn unol â’n disgresiwn ni yn unig heb rybudd a heb rwymedigaeth tuag atoch chi neu unrhyw drydydd parti.

4.3 Rydym yn darparu’r Gwasanaeth ar sail “fel y mae” yn unig a chi sy’n gyfrifol am ddefnyddio’r Gwasanaeth a/neu’r Cynnwys. Rydyn ni drwy hyn yn bendant yn nacáu pob gwarant neu amod o unrhyw fath i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw farchnadwyedd neu addasrwydd at ddiben penodol. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn rhwymedigaeth dros golled a ddioddefir neu a ysgwyddir gennych chi neu gan unrhyw drydydd parti am eich bod chi neu am eu bod nhw wedi dibynnu ar y Gwasanaeth a/neu’r Cynnwys.

4.4 Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw fodd i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw iawndal arbennig, cysylltiedig, canlyniadol, cosbol neu enghreifftiol, gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw iawndal am golli elw sy’n codi (boed mewn contract, camwedd neu fel arall) o’r Gwasanaeth a/neu’r Cynnwys neu mewn cysylltiad â nhw. Yn ychwanegol, ni fydd ein rhwymedigaeth gronnol tuag atoch mewn unrhyw fodd ynglŷn ag iawndal uniongyrchol o unrhyw fath neu natur yn fwy na £50.00.

4.5 Rydych yn cytuno i amddiffyn defnyddwyr eraill y Gwasanaeth a’r Cynnwys a ninnau, ein hindemnio a barnu ein bod yn ddiniwed ynglŷn â phob iawndal, rhwymedigaeth, hawliad a chost, gan gynnwys heb gyfyngiad ffioedd a chostau cyfreithiol rhesymol, sy’n codi o unrhyw dor-amod o’n Telerau ac Amodau Gwasanaeth gennych chi, neu drwy’r modd y byddwch yn defnyddio’r Gwasanaeth.

5. Preifatrwydd

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y cawn ni, yn unol â’n disgresiwn ni yn unig, olrhain, cofnodi, dilyn neu arsylwi ar unrhyw rai neu’r cyfan o’ch cydadweithio chi yn y Gwasanaeth. Cawn rannu gwybodaeth gyffredinol, ddemograffig neu agregedig am ddefnyddwyr y Gwasanaeth ac am ddefnyddio’r Gwasanaeth o fewn Project Casgliad y Werin Cymru, ond rydym yn cytuno y byddwn ni, wrth arfer yr hawliau hyn, yn cadw at ein dyletswyddau fel rheolwr data o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac na fydd y wybodaeth yn cynnwys eich data personol nac yn cael ei gysylltu ag ef heb eich cydsyniad ysgrifenedig chi.

6. Y Cytundeb, y Gyfraith Lywodraethol a Datrys Anghydfodau

6.1 Rydych yn cytuno bod y ffaith eich bod yn derbyn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth yn creu cytundeb cyfrwymol rhyngoch chi a ninnau ac mewn perthynas â hynny mae’r ffaith ein bod yn rhoi caniatâd ichi ddefnyddio’r Gwasanaeth a’r faith eich bod yn derbyn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth yn gyfystyr â chydnabyddiaeth dda a gwerthfawr ac y caiff y cytundeb sy’n bodoli rhyngoch chi a ninnau ei lywodraethu a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Rydych hefyd yn cytuno y bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o’r Cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag ef yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig ac o fewn yr awdurdodaeth honno.

6.2 Rydych yn cytuno i wneud eich gorau glas i ddatrys anghydfodau gyda ni mewn modd anffurfiol. O fethu datrys anghydfod yr ydych chi a ninnau’n cytuno y byddai’n well ei ddatrys drwy benderfyniad arbenigwr, byddwch yn cytuno â ni ar natur yr arbenigwr angenrheidiol ac yn cydbenodi arbenigwr addas drwy gytundeb.

6.3 Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato o dan Gymal 6.2 weithredu fel arbenigwr ac nid fel cymrodeddwr a bydd ei benderfyniad ef (y bydd rhaid rhoi rhesymau ysgrifenedig drosto) yn derfynol ac yn rhwymo’r partïon ac eithrio yn achos camgymeriad amlwg neu dwyll.

6.4 Rhaid i chi a ninnau roi i’r arbenigwr unrhyw wybodaeth a dogfennau y mae’n rhesymol iddo ofyn amdanynt at ddibenion ei benderfyniad.

6.5 Rhaid i gostau’r arbenigwr gael eu talu gennych chi a ninnau mewn unrhyw gyfrannedd y bydd yr arbenigwr yn penderfynu ei fod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau neu, os na wneir penderfyniad gan yr arbenigwr, gennych chi a ninnau yn gyfartal.

7. Darpariaethau Cyffredinol

7.1 Ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth yw’r ddealltwriaeth gyfan a’r cytundeb cyfan rhyngom ni a chithau o ran y modd y byddwch yn defnyddio’r Gwasanaeth.

7.2 Ni fydd y ffaith bod unrhyw ddarpariaeth yn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth yn annilys neu’n anorfodadwy yn effeithio ar barhad gweddill y cytundeb sy’n bodoli rhyngoch chi a ninnau mewn grym.

7.3 Rhaid i’r caniatadau a roddir gan y Telerau ac Amodau Gwasanaeth hyn ac sy’n codi drwy gytuno â nhw beidio â chael eu hildio (lle gellir eu hildio) ac eithrio yn ysgrifenedig. Rhaid peidio â dehongli unrhyw ildiad hawliau o’r fath neu unrhyw ildiad ynglŷn â thorri’n Telerau ac Amodau Gwasanaeth fel ildiad ar unrhyw hawliau eraill nac ar unrhyw doriad arall neu unrhyw doriad pellach. Rhaid peidio â barnu bod methu arfer neu orfodi unrhyw hawliau a roddir drwy gytundeb a wneir ar sail y Telerau ac Amodau Gwasanaeth hyn yn gyfystyr ag ildio unrhyw hawliau o’r fath a rhaid i fethiant o’r fath beidio â’u hatal rhag cael eu harfer neu eu gorfodi ar unrhyw adeg neu adegau wedyn.

7.4 Er hwylustod yn unig y ceir penawdau ar adrannau yn ein Telerau ac Amodau Gwasanaeth ac ni fyddant yn effeithio ar ddehongli’r termau o sylwedd yn y Telerau ac Amodau Gwasanaeth hynny.

7.5 Pan fo’r cyd-destun yn ymhlygu hynny, bydd geiriau sy’n awgrymu’r rhif unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb a bydd geiriau sy’n awgrymu’r gwrywaidd yn cynnwys y benywaidd ac i’r gwrthwyneb.

7.6 Dylid darllen a dehongli unrhyw gyfeiriad at “ni” “ninnau” neu “ein” fel pe bai’n golygu Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Culturenet Cymru ac unrhyw sefydliad arall sy’n ymwneud am y tro ac o dro i dro ym Mhrosiect Casgliad y Werin Cymru (y ceir rhestr ohonynt yn Adran 1.1).

7.7 Caniateir i’r cyfan neu unrhyw rai o’n hawliau a’n rhwymedigaethau o dan gytundeb ar y Telerau ac Amodau Gwasanaeth hyn gael eu haseinio i berchennog neu weithredwr dilynol ar y Gwasanaeth os y caiff y cyfan neu gyfran helaeth o’n hasedau’n eu cyfuno, eu caffael neu eu gwerthu.