Hygyrchedd

Mae Casgliad y Werin Cymru wedi gwneud ymrwymiad greu gwefan y gall pawb ei defnyddio, gan gynnwys pobl llai abl. Gwnaed canllawiau hygyrchedd yn greiddiol i’r broses dylunio a datblygu o’r cychwyn cyntaf ac rydyn ni wedi cymryd pob cam posibl i wneud yn siŵr bod y wefan hon yn hygyrch i bawb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am y wefan, cysylltwch â ni, gan ein bod ni’n ymdrechu’n barhaus i wella profiad pob ymwelydd.

Nod y wefan yw cydymffurfio â chanllawiau Priority 1 a Priority 2 canllawiau hygyrchedd W3C. Rydym yn gweithredu proses o wella parhaus i sicrhau ein bod yn glynu at y canllawiau.

Maint Testun

Os yw’r testun ar wefan hon yn rhy fân, mae’n hawdd newid y gosodiadau yn eich porwr. Agorwch y ddewislen Offer, dewis ‘maint testun’, ‘chwyddo testun’ neu ‘chwyddo’ a newid maint y testun.

Addasiadau testun porwr ychwanegol

  • Defnyddwyr porwr Firefox, fynd i’r ddeislen Gweld, dewis 'zoom-in' neu 'zoom-out' i gynyddu/lleihau.
  • Defnyddwyr porwr Internet Explorer, fynd i’r ddeislen Gweld, dewis Maint y Testun, a dewis Mwy neu Mwyaf.

Llywio

Mae’r map safle yn cael ei ddiweddaru’n barhaus ac yn dangos strwythur cyfan gwefan Casgliad y Werin Cymru, gan eich helpu i ganfod eich lle ar y wefan a lle i fynd.

Dogfennau

Gellir chwyddo a lleihau dogfennau ar y wefan hon (e.e. gan gynyddu maint testun) gan gynnwys dogfennau PDF (Portable Document Format) trwy ein darllennydd cyffredinol (Universal Viewer) sydd wedi'i fewnosod ar y tudalen. Ar gyfer rhaglenni darllen sgrin, gallwch chi lawrlwytho dogfennau PDF sydd wedi’u hatodi, neu mewn dolen, i’ch cyfrifiadur er mwyn defnyddio meddalwedd o’ch dewis, fel Adobe Acrobat sydd ar gael o wefan Adobe . Pan fyddan nhw’n ymddangos o fewn i feddalwedd trydydd parti Universal View, rydym wedi gosod botwm argraffu ger y botymau cymdeithasol, yn union uwchben y darllennydd, fydd yn caniatau i chi argraffu i ffynhonell lawrlwytho.

Adrodd ar broblemau hygyrchedd

Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan yn barhaus, ond os oes gennych unrhyw broblem neu eich bod yn poeni nad ydyn ni yn cyrraedd ein gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.