Beth ydym ni'n ei wneud?
Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan am ddim sy’n dod â threftadaeth Cymru ynghyd. Mae ein Casgliad yn llawn o ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain a fideo a straeon diddorol sy’n cysylltu â hanes, diwylliant a phobl Cymru. Daw’r eitemau hyn nid yn unig gan sefydliadau cenedlaethol ond hefyd gan unigolion, grwpiau cymunedol lleol ac amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd bach ledled Cymru.
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant i grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau. Mae ein diwrnod hyfforddi yn darparu canllawiau cam wrth gam ar sut i ddigido cynnwys ac yn egluro pynciau anodd megis hawlfraint. Os oes angen, gallwch fenthyg offer gennym ni yn rhad ac am ddim felly fydd dim yn eich dal yn ôl!
Ydych chi'n athro/athrawes? Ewch draw i’n hadran Dysgu lle gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o adnoddau addysgu yn ôl cyfnod allweddol a phwnc. Rydym hefyd yn un o bartneriaid Hwb sy'n caniatáu i athrawon a disgyblion gael mynediad i'n harchif helaeth o filoedd o adnoddau drwy'r ystafell ddosbarth.
Drwy eu cyfrif Hwb, gall athrawon a dysgwyr chwilio am ddeunyddiau ac ychwanegu at eu hadnoddau, rhestri chwarae a dosbarthiadau Hwb.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Rydym ni'n angerddol dros ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru ac rydym yn credu bod gan bawb ddarn o'r jig-so sy'n adrodd hanes Cymru, boed hynny yn atgof, llythyr, hen ffotograff neu recordiad.
Rydym am gasglu a rhannu'r straeon dirifedi hyn ar ein gwefan fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu mwynhau.
Pwy ydym ni?
Sefydlwyd Casgliad y Werin Cymru yn 2010 gyda thîm bach yn gweithio arno. Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru, a'r tri sefydliad partner blaenllaw yw Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Gweler y rhestr lawn o gefnogwyr a chydweithwyr sydd wedi ein helpu ar hyd y daith.