Beth yw Metadata?

Metadata yw’r wybodaeth neu’r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio gwrthrych digidol. Mae pob delwedd, dogfen, fideo neu recordiad sain angen metadata. Bydd y wybodaeth a arbedwyd gyda’r gwrthrych digidol yn cael ei defnyddio i gategoreiddio eitemau tebyg gydag eraill ac, yn bwysicaf oll, dyma fydd y ffynhonnell a ddefnyddir gan beiriannau chwilio a gwefannau i ddod o hyd iddynt.


PWY | BETH | PRYD | BLE

Teitl: ysgrifennwch Beth yma, cadwch o’n fyr ac yn berthnasol

Disgrifiad: ysgrifennwch am Pwy, Beth, Pryd, a Ble gan rhoi gymaint o fanylion â phosib, gan wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys popeth y gallwch weld a chlywed.


Enghraifft

Title: Cerdyn Post Siopau Edwardaidd Aberystwyth 1910

Description: Cerdyn Post yn dangos Ceidwyr Siop a phobl y dre ar gornel Ffordd y Môr a Heol Alecsandra gyferbyn â gorsaf y rheilffordd Aberystwyth ym 1910 [Cardiau Ceredigion Cyfres Rhif.7]