Sut i uwchlwytho

CAM 1: Ychwanegu ffeiliau

Rhowch un neu fwy o ffeiliau* yn yr Uwchlwythwr drwy glicio Dewis ffeiliau neu llusgo a gollwng yn syth o’ch cyfrifiadur i’r blwch.

y system uwchlwytho
ffigwr 6 – yn dangos y botwm Dewis ffeiliau a’r blwch Llusgo a gollwng

* Llun, dogfen, fideo neu glip sain. Byddan nhw’n cael eu cyhoeddi fel tudalennau ar y wefan.

CAM 2 Creu tudalen gyda'ch eitem

Mae ffigwr 7 yn dangos tri ffeil wedi’u huwchlwytho’n llwyddiannus. Y dewis nawr yw eu cyhoeddi ar wahân neu gyda’i gilydd fel un eitem (eitem aml-ran*).

enghraifft o luniau wedi uwchlwytho
ffigwr 7 – mae tri png wedi cael eu gosod yn yr Uwchlwythwr

* Mae eitemau aml-ran yn addas ar gyfer cadw darnau cysylltiedig gyda’i gilydd – blaen a chefn cerdyn post neu ddogfen o fwy nag un dudalen er enghraifft.

Pwysig: wrth ychwanegu un ffeil byddwch chi’n mynd yn syth i’r dudalen Golygu. Wrth ychwanegu mwy nag un ffeil, rhaid dewis Golygu yn y rhestr o eitemau drafft. Mae nhw wedi’u cadw o dan yr Uwchlwythwr, yn barod i’w golygu ac i uchwanegu gwybodaeth, fel teitl, disgrifiad, ac yn y blaen.

lluniau ar ol uwchlwytho
ffigwr 7b – ffeiliau drafft (wedi'u llwytho i fyny ond heb eu cyhoeddi eto)

 

Nesaf: Ychwanegu Gwybodaeth a Chyhoeddi