Digido eich casgliad

Mae tîm arbennig gan Casgliad y Werin Cymru sy’n ymweld â chymunedau Cymru i annog grwpiau ac unigolion i ddefnyddio’r wefan a rhannu eu storïau. Os hoffech chi help i ddigideiddio eich casgliad, i uwchlwytho eich casgliadau i’r wefan neu i ddefnyddio nodweddion newydd y wefan, cysylltwch â ni.

Isod mae rhai awgrymiadau i’ch rhoi ar ben y ffordd.

Canllawiau Digideiddio

Lawrlwythwch ein Canllawiau Digideiddio am gyfarwyddiadau manwl ar sut i ddigideiddio eich casgliad:

Hyfforddiant

Mae pob math o gymorth ar gael yn ein Diwrnodau Hyfforddiant, o wybodaeth am hawlfraint i ddysgu sgiliau digideiddio ymarferol. Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn hyfforddiant, cysylltwch â ni.

Benthyg offer

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth benthyg offer er mwyn i chi ddigideiddio eich casgliad a chyfrannu at Gasgliad y Werin. Gallwn ddarparu offer i ddigideiddio gwrthrychau 2D a sleidiau, recordio hanes llafar ar offer sain a fideo a chreu storïau digidol. Gallwch fenthyg offer yn rhad ac am ddim. Y cyfan sy'n ofynnol yw eich bod chi’n cadw at ein Polisi Benthyg ac yn gallu cyrraedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gasglu a dychwelyd yr offer.

I wneud cais i fenthyg offer, cysylltwch â ni.

Canolfannau Treftadaeth Ddigidol

Mae Casgliad y Werin Cymru yn sefydlu Canolfannau Treftadaeth Ddiwylliannol ar draws Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n frwd dros y syniad. Bydd sefydlu Canolfannau Treftadaeth Ddiwylliannol yn adeiladu ar waddol gynaliadwy y fenter yn y gymuned ac yn rhoi mynediad rhad ac am ddim i’r cyhoedd i gyfleusterau TG a digideiddio.

Gall Casgliad y Werin Cymru gynnig hyfforddiant digideiddio i sefydliadau ar gyfer staff, gwirfoddolwyr a phobl leol sydd â diddordeb mewn treftadaeth ddigidol. Drwy feithrin sgiliau digideiddio ymarferol a gwybodaeth am ysgrifennu disgrifiadol, materion hawlfraint a gwefan Casgliad y Werin Cymru, bydd yr hyfforddiant yn fodd i ddatblygu hyfedredd digidol eich cymuned a chynyddu hyder unigolion. Ein gobaith yw y bydd yr hyder hwn yn galluogi staff, gwirfoddolwyr ac unigolion i rannu eu gwybodaeth ag eraill yn y gymuned.

I ddysgu mwy am sefydlu Canolfan Treftadaeth Ddigidol.

Hyrwyddwyr casgliad y Werin Cymru

Ai chi fydd un o Hyrwyddwyr nesaf Casgliad y Werin Cymru?

Mae Hyrwyddwr yn berson sy’n frwd dros waith Casgliad y Werin Cymru ac yn cefnogi’r project. Fel person sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd rhannu treftadaeth bydd yn annog eraill i gyfrannu at Gasgliad y Werin Cymru. Bydd Hyrwyddwr yn gennad dros yr achos ac yn berson y gellir ymddiried ynddo i rannu arferion gorau ag eraill, wedi derbyn hyfforddiant digideiddio gan staff Casgliad y Werin Cymru. Disgwylir i Hyrwyddwr allu rhoi peth o’i amser sbâr i gyfrannu at weithgareddau Casgliad y Werin Cymru, fel gwirfoddolwr mewn Canolfan Dreftadaeth Ddigidol (link to Digital Heritage Stations), fel aelod o grŵp treftadaeth, neu fel unigolyn brwdfrydig!

Am ragor o wybodaeth am sut i ddod yn Hyrwyddwr Casgliad y Werin Cymru.