O ganlyniad i gyfyngiadau pandemig Covid-19, mae ein holl sesiynau hyfforddiant a gwasanaethau eraill yn cael eu cynnig o bell; ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Mae croeso i chi cysyllu â ni i drefnu sesiwn hyfforddiant ar-lein, yn rhad ac am ddim, lle edrychwn ymlaen i'ch cefnogi trwy'r broses o ddarganfod, dathlu a rhannu eich treftadaeth ddiwylliannol.
Dysgwch sut i drefnu, sganio a digido eich ffotograffau a dogfennau
Sganio a Digido i safon amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd
Dysgwch am hawlfraint, metadata a sut i drefnu, sganio a digido ffotograffau a dogfennau.
Diwrnod hyfforddiant digido, lle mae ein tîm yn gallu dod i leoliad yn eich ardal er mwyn rhannu arfer gorau ar gyfer creu delweddau digidol i’w rhannu ar y we a dulliau o greu ffeiliau meistr ar gyfer curadu digidol. Bydd yr hyfforddiant yn cyflwyno chi i wefan Casgliad y Werin Cymru a’r holl nodweddion gall y safle eu cynnig i chi.
Bydd y sesiwn bore yn cyflwyno pynciau pwysig megis hawlfraint a metadata (hanfodol ar gyfer gwneud eitemau yn hawdd chwilio a dod o hyd iddynt), tra bydd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar yr elfen ymarferol megis graddnodi sganiwr a chreu ffolderi ar gyfer gwahanol fathau o ffeiliau. Bydd cyfle i chi gael profiad ymarferol yn ystod y rhan yma o’r hyfforddiant.
Uned Achrededig Agored Cymru
Unwaith y bydd unigolion wedi mynychu'r diwrnod hyfforddiant safonol gallant symud ymlaen i gwblhau cwrs achrededig Agored Cymru drwy Casgliad y Werin. Mae hon yn uned Lefel 2 ac yn 3 credyd fel rhan o fframwaith dysgu Agored Cymru. Bydd cost o £15 y person am wneud hyn.
Rydym hefyd yn datblygu unedau achrededig pellach, yn cynnwys unedau ar Hanes Llafar a Curadu Digidol, yn ogystal a ddatblygu tiwtorial ar-lein i alluogi unigolion i ddilyn y cyrsiau yn eu cartrefi eu hunain. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan maes o law, ond gwnewch gais i gael eich hysbysu trwy e-bost.
Cysylltwch â staff Ymgysylltu Cymunedol am ragor o wybodaeth neu am unrhyw wasanaeth eraill. Gwelwch hefyd Gorsaf Treftadaeth Ddigidol.