Sut i ychwanegu gwybodaeth a chyhoeddi

CAM 1 Gwybodaeth sylfaenol

Mae'n hanfodol ychwanegu gwybodaeth ddefnyddiol fydd yn cael ei harddangos ar y dudalen we gyda’r ffeil. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf teitl a disgrifiad i’r eitem, a dweud pwy greodd yr eitem. Gallwch chi ddewis ychwanegu Categori neu Tag, sy’n bwysig i wneud eitemau yn haws eu canfod. Y term technegol am hyn yw Metadata – sef disgrifiad o’r ffeil gyda manylion: Pwy, Beth, Pryd, Ble


ffigwr 8 – ychwanegu gwybodaeth werthfawr i eitemau

CAM 2 Gwybodaeth ychwanegol (metadata)

Dewiswch Mapio i osod lleoliad; mae'n bosib y bydd Trwyddedu yn bwysig i chi hefyd.

CAM 3 Cyhoeddi

Ticiwch y blwch ar waelod y dudalen i gadarnhau eich bod yn rhoi caniatâd i gyhoeddi ac yn cytuno i Delerau’r wefan. Dewiswch Cyhoeddi i anfon eich eitem at ein tîm cymedroli. Gall hyn gymryd 24 awr, neu fwy ar benwythnosau a gwyliau banc. Byddwch yn derbyn hysbysiad ar dudalen eich cyfrif pan fydd y broses wedi’i chwblhau.

edit account
ffigwr 9 – ticiwch y blwch Derbyn y Telerau cyn clicio’r botwm Cyhoeddi

 

Nesaf: Cyhoeddi Casgliad neu Stori