Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Casgliad y Werin Cymru?

Gwefan sy’n llawn ffotograffau, recordiadau sain, dogfennau, fideos a straeon cyfareddol am hanes a threftadaeth Cymru a'i phobl. Casgliad y Werin Cymru yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae Casgliad y Werin Cymru yn dod â chasgliadau digidol prif sefydliadau treftadaeth Cymru at ei gilydd, ynghyd â deunydd o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd llai, ac yn fan i chi rannu'ch stori am Gymru.

Mae'n cynnig mynediad cyflym a hawdd at dreftadaeth gyfoethog Cymru ac yn caniatáu i chi gyfrannu'ch cynnwys eich hun i wella'r amrywiaeth ar y safle a sicrhau y caiff hanes eich ardal chi ei adrodd.

Am ragor, darllenwch ein tudalen amdanom ni

Pwy sy'n gallu uwchwlytho?

Mae unrhywun yn gallu Cofrestru ac mae gan bawb ran i’w gyfrannu at jig-so hanes Cymru. Gall fod yn sylw ar ffotograff sydd wedi codi atgof, neu’n llun, stori, llythyr, braslun, cerdyn post, recordiad (ffilm neu sain), cerdd neu gofrodd. Caiff eitemau fel hyn eu hanghofio, eu colli, eu taflu, eu dileu, neu eu difrodi'n ddamweiniol yn ddyddiol. Trwy ddefnyddio Casgliad y Werin Cymru i rannu'r eitemau hyn, rydym yn cyfoethogi ein treftadaeth genedlaethol ac yn sicrhau y cedwir yr eitemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Uwchlwytho eich eitemau chi
  • Creu casgliadau, straeon a llwybrau o'ch eitemau
  • Casglu eitemau eraill i greu casgliadau, straeon newydd
  • Ychwanegu sylw at eitemau

Sut all grwpiau cymunedol a hanesyddol lleol gyfrannu?

Mae gan Casgliad y Werin Cymru dîm arbennig sy’n ymweld â chymunedau lleol gan gynorthwyo ac annog grwpiau ac unigolion i ddefnyddio’r wefan a rhannu’u cynnwys. Mae’r tîm yn cydweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i feithrin sgiliau newydd a chynnal projectau digido cymunedol. Gellir cyfuno hyn â chyngor am y gwahanol ffyrdd o gyfrannu a defnyddio'r teclynnau sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Os hoffech chi gymryd rhan, neu os hoffech ragor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â ni.

Beth yw cymedroli?

Mae unrhyw gynnwys sy'n cael ei uwchlwytho yn cael ei gymedroli cyn ymddangos i'r cyhoedd. Wrth gyfrannu eitem, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth e.e. teitl, disgrifiad, ac yn bwysicaf oll, gwybodaeth hawlfraint.

Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno eitem i’w chymedroli, bydd yn aros ei thro i gael ei hasesu, yn unol â’r Telerau defnydd a phreifatrwydd. Tra bod eitem yn cael ei chymedroli, dim ond y defnyddiwr all ei gweld. Nid yw’n weladwy i weddill defnyddwyr y wefan.

Fformatau ffeil a meintiau gaiff eu caniatáu?

Dyma’r mathau o ffeiliau gaiff eu caniatáu (maint mwyaf ydy 200MB):

  • Delweddau: png, gif, jpg neu pdf
  • Fideo: mp4
  • Sain: mp3
  • Testun: txt, doc
  • Gwrthrych 3D: obj