Mae unigolion sy'n dangos brwdfrydedd ac sy'n rhoi cefnogaeth i eraill yn eu cymuned yn Bencampwyr yn ein barn ni!
Mewn cymunedau ledled Cymru rydym wedi bod yn darparu cymorth ac adnoddau i unigolion sydd nawr yn rhannu eu sgiliau ag eraill, ac yn hyrwyddo’r wefan.
Er mwyn dod yn Bencampwr CyWC byddwch angen:
- mynychu un o’n diwrnodau hyfforddiant digido
- gallu rhoi o’ch amser i hyrwyddo buddiannau defnyddio’r wefan
- gwirfoddoli o bosib mewn Gorsaf Treftadaeth Ddigidol
- neu roi cymorth i unigolion neu grwpiau sydd â diddordeb mewn treftadaeth ddigidol
Am ragor o wybodaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin neu mae croeso i chi ffonio i drafod.
Tîm Casgliad y Werin Cymru
Ffôn: 01970 632 500 | ebost
Rhestr o unigolion sydd wedi ennill statws Pencampwr CyWC
Rydym yn ddiolchgar iawn i'r unigolion a nodir yma fel Pencampwyr Casgliad y Werin, am roi amser a chefnogaeth i bobl eraill ac am y gwaith ar eu casgliadau arbenigol eu hunain