Cwestiynnau Cyffredin

Beth yw Pencampwr?

Mae pencampwr yn unigolyn sy'n dangos brwdfrydedd a chefnogaeth ar gyfer prosiect gwefan Casgliad y Werin Cymru. Bydd yr unigolyn yma yn cofleidio pwysigrwydd Treftadaeth a rennir ac yn annog eraill i gymryd rhan yn brosiect Casgliad y Werin Cymru. Bydd Pencampwyr yn llysgenhadon ar gyfer Casgliad y Werin Cymru a byddant yn unigolion y gellir ymddiried ynddynt ac sydd wedi cwblhau hyfforddiant digido safonol. Bydd hynny yn eu galluogi i rannu arfer gorau gydag eraill. Byddant yn cael eu cydnabod am eu gwaith gan Casgliad y Werin Cymru a'u cefnogi am eu hymrwymiad wrth iddynt hwyluso prosiect Casgliad y Werin Cymru . Mae angen iddynt fod yn naill a’i staff neu wirfoddolwyr mewn Gorsaf Treftadaeth Ddigidol, neu aelod o grŵp Treftadaeth neu unigolion sy'n awyddus i hwyluso eraill wrth rannu cynnwys ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Sut y gallaf fod yn Bencampwr?

I fod yn Bencampwr bydd angen i unigolyn fynychu diwrnod hyfforddiant digido fel y trefnwyd gan staff Casgliad y Werin Cymru. Bydd angen iddynt fod yn gallu rhoi rhywfaint o amser rhydd ar gyfer hyrwyddo Casgliad y Werin Cymru o fewn cyd-destun eu cyfraniad, naill ai fel gwirfoddolwr mewn sefydliad cynnal sydd wedi datblygu Gorsaf Treftadaeth Ddigidol, neu fel aelod o grŵp Treftadaeth, neu unigolyn sydd a diddordeb mewn traftadaeth ddigidol.

Mae mwy o wybodaeth am Orsafoedd Treftadaeth Ddigidol ar gael.

Beth fydd fy nyletswyddau fel Pencampwr?

Y syniad yw y bydd Pencampwyr yn hapus i fod yn Llysgenhadon ar gyfer Casgliad y Werin Cymru, felly'r brif flaenoriaeth ar gyfer Pencampwr yw hyrwyddo gwefan Casgliad y Werin Cymru i eraill. Bydd Pencampwyr yn gweithredu fel hwyluswyr ar gyfer prosiectau treftadaeth leol. Bydd Pencampwyr yn hyddysg i rannu’r arfer gorau o ddigido deunydd. Dylai Pencampwyr felly fod yn ddigon cymwys i ddangos i eraill sut i ddigido deunydd i safon benodol. Byddant yn medru cynorthwyo anghenion digido grwpiau neu unigolion a fydd yn codi. Bydd disgwyl i Bencampwyr i gysylltu â staff Casgliad y Werin Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru os oes unrhyw faterion yn codi ar y wefan y bydd angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt.

Pa gefnogaeth gallaf ddisgwyl fel Pencamwr?

Bydd Pencampwyr yn derbyn hyfforddiant safonol ar sut i ddigido deunydd i uwch lwytho ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am hawlfraint a metadata gan gyfeirio at system Dublin Core. Byddant hefyd yn cael eu dangos sut i raddnodi sganir a bydd yr hyfforddiant ymarferol yn cynnwys dull ar gyfer creu ffeil meistr (tiff.) a ffeil ar gyfer y we (jpg.). Mae Casgliad y Werin Cymru yn medru cynnig cyfleoedd pellach ar gyfer Pencampwyr i gwblhau Cwrs Lefel 2 – 3 credid Agored Cymru sef ‘Digido ar gyfer Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd, ac Archifau’. Mae'r cwrs yn rhan o Fframwaith Cymwysterau Agored Cymru. Bydd Casgliad y Werin yn darparu cefnogaeth o bell i bob Pencampwr a fydd hynny yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddaru’r wefan a safonau digido. Os bydd Pencampwr wedi nodi lleoliad posibl ar gyfer Gorsaf Treftadaeth Ddigidol, bydd staff Casgliad y Werin Cymru yn darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i helpu hwyluso hynny, yn ogystal â darparu'r deunydd marchnata i alluogi'r Pencampwr i hyrwyddo Casgliad y Werin Cymru.

Diffinio Pencampwr

"Mae pencampwr da heb achos fel ynni caeth
Mae achos gwych heb bencampwr mond fel breuddwyd swil
Ond mae achos gwych a phencampwr da yn gwireddu gweledigaeth!"

Cyfieithiad Hazel Thomas o’r geiriau
gan Robert Porter Lynch, “How to Foster Champions - Leading Beyond the Walls"