Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganed John Michael Basham (Johnny Basham) (1890-1947) yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, a daeth i Wrecsam ym 1912 yn recriwt gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu'n aros yn y barics yn Wrecsam am nifer o flynyddoedd a chafodd ei ddyrchafu'n sarsiant. Fodd bynnag, daeth yn fwyaf adnabyddus ymhlith pobl Wrecsam fel bocsiwr a chafodd ei adnabod fel 'The Happy Wanderer'. Cynhaliwyd nifer o'i ornestau yn y barics neu'r 'Drill Hall'.
Ym 1914 enillodd fuddugoliaeth bwysig yn erbyn Johnny Summers gan gipio'r bencampwriaeth pwysau welter. Llwyddodd i ddal ei afael ar y bencampwriaeth hon hyd 1920. Ym 1916 Basham oedd y pencampwr pwysau welter cyntaf i ennill gwobr newydd Belt Lonsdale ac yn fuan wedyn enillodd Bencampwriaeth Ewrop. Yn ddiweddarach, symudodd i'r pwysau canol gan ddod yn Bencampwr Ewrop ym 1921. Yn ystod ei yrfa, ymladdodd 91 o ornestau proffesiynol, gan ennill 68 gornest a dod yn gyfartal mewn 6 gornest.
Rheolwr Basham yn ystod ei gyfnod yn Wrecsam oedd yr Henadur William T. Dodman. Ganed Dodman yn Llundain ar 19 Rhagfyr 1877 a daeth i Wrecsam ym 1898 gan sefydlu campfa yn Stryt Erddig. Yn ddiweddarach, sefydlodd gwmni cynhyrchu a gwerthu esgidiau yn Town Hill.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw