Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Mae'r esgidiau pêl-droed hyn yn perthyn i gasgliad mawr o eitemau (509) o Siop Esgidiau Dodman, Town Hill, Wrecsam, sydd bellach ar gadw yn Amgueddfa Wrecsam.
Ganed yr Henadur William Thomas Dodman yn Llundain ar 19 Rhagfyr 1877 a daeth i Wrecsam ym 1898 gan sefydlu campfa yn Stryd Erddig. Yn ddiweddarach, sefydlodd gwmni cynhyrchu a gwerthu esgidiau yn Town Hill. Ar un adeg, honnai William Dodman ei fod yn gwerthu dros 600 pâr o glocsiau pren bob wythnos ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd enillodd gytundeb i drwsio esgidiau'r milwyr Americanaidd a oedd wedi eu lleoli yn ardal Wrecsam.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (1)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw