arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Cymru a Chwpan y Byd

Eitemau yn y stori hon:

Cyrraedd yn annisgwyl

Ni fu buddugoliaethau dros Tsecoslofacia a Dwyrain yr Almaen yn y rowndiau rhagbrofol yn ddigon i sicrhau lle i Gymru yn ngornest derfynol Cwpan y Byd 1958.

Bu Cymru yn ffodus i gael cyfle arall i fynd drwodd wedi i nifer o dimau dynnu allan o'r gystadleuaeth gan adael Israel heb wrthwynebwyr yn y grŵp Affrig-Asia.   Dewiswyd y tîm cenedlaethol allan o'r timau a oedd wedi dod yn ail yn eu grwpiau i chwarae rownd dau gymal yn erbyn Israel am le yn yr ornest derfynol.  Manteisiwyd ar y cyfle euraidd gyda dwy fuddugoliaeth o 2-0, y naill yn Tel Aviv a'r llall ym Mharc Ninian yng Nghaerdydd.

Y Gystadleuaeth

Agorwyd y Gornestau'n swyddogol ar 8 Mehefin 1958, yn Sweden. Roedd Cymru yng Ngrŵp 3 gyda Sweden, Hwngari a Mecsico ac roedd yr ymgyrch wedi dechrau gyda sgorio 1-1 yn erbyn Hwngari a Mecsico.  Roedd canlyniad 0-0 yn erbyn Sweden yn ddigon i sicrhau gêm dros ben yn erbyn Hwngari am le yn yr un-ar-bymtheg olaf. 

Bu'n rhaid brwydro'n galed yn y gêm dros ben.  Aeth yr Hwngariaid corfforol i mewn i'r toriad hanner amser ar y blaen o 1-0.  Serch hynny, sicrhaoedd goliau yn yr ail hanner gan Ivor Allchurch a Terry Medwin fuddugoliaeth i Gymru.

Tor-calon

Trechwyd Cymru gan Brasil yn y rowndiau gogynderfynol - cafodd yr unig gôl ei sgorio gan y bachgen 17 oed Pelé. Ar y pryd, Pelé oedd y chwaraewr ifancaf erioed i chwarae yng ngornestau terfynol Cwpan y Byd a sgoriodd ei gôl gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Cymru. Aeth Brasil ymlaen i ennill y Cwpan, gan guro Sweden o 5 gôl i 2 yn y gêm derfynol.

Chwaraeodd rhai chwaraewyr rhagorol i dîm cenedlaethol Cymru ar y pryd, yn eu mysg John Charles ac Ivor Allchurch, ac mae'r 1950au yn cael eu cofio fel oes aur pêl-droed yng Nghymru.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw