Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd John Charles (1931-2004) yn chwaraewr amryddawn heb ei ail. Roedd yn gyffyrddus yn chwarae yn safle'r hanerwr canol neu'r canolwr blaen a gallai chwarae hefyd yn safle'r cefnwr neu yng nghanol cae os oedd angen. Mae'r ffaith iddo lwyddodd i dorri record sgorio clwb Leeds Unedig gyda 42 o oliau mewn un tymor, yn ystod cyfnod pan oedd yn ymddangos fel hanerwr canol mewn gêmau rhyngwladol dros Gymru, yn brawf o'i ddoniau amrywiol.
Ym mis Awst 1957, arwyddodd Charles gytundeb â Juventus am £65,000 - tâl trosglwyddo uchaf erioed am chwaraewr o Brydain. Ef oedd y chwaraewr cyntaf o Brydain i gyrraedd y safon ym myd pêl-droed yr Eidal ac ef mae'n debyg yw'r allforyn mwyaf llwyddiannus o'r Cynghrair Pêl-droed i Serie A. Yn ystod y pum mlynedd y bu Charles yn chwarae i Juventus, mi wnaethant ennill y Pencampwriaeth Serie A tair gwaith a Chwpan yr Eidal dwywaith.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw