Yr Holocost a Chymru: Arlunwyr Iddewig yng Nghymru - Josef Herman
723 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Arlunwyr Iddewig yng Nghymru: astudiaeth achos, Josef Herman
Bu’r ffoadur Iddewig, yr artist Josef Herman, yn byw yn Ystradgynlais yng nghwm Tawe am un mlynedd ar ddeg. Yn y wers hon, gofynnir i fyfyrwyr archwilio gwaith celf Herman a chreu darnau eu hunain yn ei arddull ef. Gellir defnyddio’r wers hon fel gwers ar ei phen ei hun neu ei hymgorffori mewn cynllun gwaith astudio artist TGAU Celf.
Delwedd uchod: Miners Singing gan Josef Herman (1911-2000). ©Ystad yr arlunydd/Amgueddfa Cymru - National Museum of Wales.
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Cyfnod Allweddol 4
Hanes, Celf a dylunio
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr.
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw