Yr Holocost a Chymru: Arlunwyr Iddewig yng Nghymru - Heinz Koppel
688 wedi gweld yr eitem hon
Disgrifiad
Mae’r adnodd hwn yn archwilio’r artist Iddewig a aned yn Berlin, Heinz Koppel, a fu’n byw yng Nghymru. Mae myfyrwyr yn archwilio gwahanol ffynonellau i gael dealltwriaeth o fywyd ac arddull artistig yr artist. Mae'r adnodd hwn yn defnyddio elfennau o Ddrama a Symud, felly mae'n well ei chyflwyno mewn gofod mawr fel stiwdio Ddrama.
Delwedd uchod: Heinz Koppel ac Renate Fischl ar ddiwrnod eu priodas, 1949. Delwedd trwy garedigrwydd Gaby Koppel.
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Cwricwlwm i Gymru
Y Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau
Oed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr.
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw