Yr Holocost a Chymru: ‘Estroniaid Gelyniaethus’ a Gwersylloedd Caethiwo
810 wedi gweld yr eitem hon
Disgrifiad
Ar ôl i'r rhyfel ddechrau ym mis Medi 1939, ystyriai Llywodraeth Prydain bob Almaenwr ac Awstriad ym Mhrydain yn fygythiad i ddiogelwch gwladol; daethant i gael eu hystyried yn 'estroniaid gelyniaethus' a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn ystod haf 1940 tynhawyd y cyfyngiadau a chafodd degau o filoedd eu caethiwo mewn gwersylloedd. Ffoaduriaid Iddewig oedd mwyafrif y rhai a garcharwyd, ffoaduriaid a oedd wedi dianc rhag erledigaeth y Natsïaid a dod o hyd i noddfa ym Mhrydain.
Mae'r adnodd hwn yn archwilio effaith caethiwed ar ffoaduriaid Iddewig a'u bywydau.
Delwedd uchod: Wilhelm Jondorf (1890-1957). The Fifth Columnist, Onchan, Ynys Manaw, 1940. Inc a dyfrlliw ar gardbord. 15.2X12.5 cm. Rhodd Mrs Betty Jondorf , Llundain. Casgliad o Yad Vashem Art Museum, Jerusalem.
Mae'r adnodd yn cynnwys:
I. Canllawiau i Athrawon:
- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am ‘estroniaid gelyniaethus’.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.
II. Taflen Wybodaeth a Gweithgareddau i Ddysgwyr:
- Gwybodaeth am ‘estroniaid gelyniaethus’ a'r broses o'u caethiwo.
- Gweithgareddau awgrymedig.
Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost i ysgolion Cymru' rhwng y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC). Cefnogwyd y prosiect trwy garedigrwydd Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson, Cymdeithas Hanes Iddewig Lloegr a Sefydliad Garfield Weston.
Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.
Cwricwlwm i Gymru
Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae hwn yn un o ddau adnodd ar bwnc caethiwo 'estroniaid gelyniaethus', ac yn un o 20 adnodd am yr Holocost a Chymru. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:
‘Estroniaid Gelyniaethus’ a Hawliau Dynol
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw