Yr Holocost a Chymru: Caethiwo 'estron-elynion' Rhan 2

205 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio caethiwedigaeth ffoaduriaid Iddewig fel ‘estron-elynion’ yn 1939. Ar ôl dechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, daeth holl Almaenwyr ac Awstriaid Prydain yn ‘estron- elynion’ a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn haf 1940, tynhawyd cyfyngiadau oherwydd y risg o oresgyniad gan yr Almaenwyr, a chafodd degau o filoedd eu caethiwo. Roedd y cynnydd yn nifer y rhai a gafodd eu caethiwo wedi dihysbyddu gallu safleoedd presennol ac, er bod y rhan fwyaf o ffoaduriaid wedi’u caethiwo mewn gwersylloedd ym Mhrydain, cafodd rhai eu halltudio i wledydd eraill, yn arbennig Canada ac Awstralia.

Gan ddefnyddio dau ddarn o dystiolaeth hanes llafar, mae’r wers hon yn archwilio’r ffaith bod Ffoaduriaid Iddewig wedi’u caethiwo fel ‘estron-elynion’ yn y DU a’u profiad o gael eu hanfon i wersylloedd yng Nghanada ac Awstralia.

Dyma sesiwn 2 o 2 ar y testun Caethiwo 'estron-elynion' ac argymhellir bod athrawon yn defnyddio'r ddau adnodd.

Delwedd uchod: Cerdyn Estron-Elynion a Chaethiwedigion Heinrich David Pinkus. The National Archives, Kew, Llundain, Lloegr, HO 396 WW2 Internees (Aliens) Index Cards 1939-1947, Cyfeirnod Archif: HO 396/135. Delwedd: Findmypast. Dogfen wreiddiol: ©Hawlfraint y Goron. Atgynhyrchwyd y llun trwy garedigrwydd The National Archives, Llundain, Lloegr.

 

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cyfnod Allweddol 4

Hanes, Sgiliau Llythrennedd

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Caethiwo ‘estron-elynion’. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:

Caethiwo ‘estron-elynion’ Rhan 1

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

L11_Caethiwo_Rhan_2_Cynllun_Gwers.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) L11_Caethiwo_Rhan_2_Taflen_Waith.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) L11_Internment_Part_2_Lesson_Plan.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) L11_Internment_Part_2_Worksheet.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw