Yr Holocost a Chymru: Bywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru
949 wedi gweld yr eitem hon
Disgrifiad
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar fywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar ddau bwnc: Gwasanaeth crefyddol a cheder, a bwyd kosher.
Roedd crefydd yn rhan bwysig o fywyd llawer o ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru. Roedd llawer yn mynychu synagogau neu cheder (addysg grefyddol). Mae deddfau dietegol Iddewig, sydd wedi'u gwreiddio mewn crefydd, yn nodi pa fwydydd y gall neu na allant Iddewon eu bwyta. Mae'r cyfreithiau hefyd yn nodi sut mae'r bwyd yn cael ei baratoi cyn iddo gyrraedd y cartref ac oddi mewn iddo. Yn gyffredinol, po fwyaf Uniongred yw cefndir person, y mwyaf agos y cedwir at y rheolau hyn.
Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar gan ddau ffoadur Kindertransport – un yn disgrifio gwasanaethau crefyddol yng Nghastell Gwrych ac un am ddefodau crefyddol yn eu cartref dros dro.
Delwedd uchod: Dosbarth Cheder, Abertawe Beth Hamedrash, 1908-09. Delwedd trwy garedigrwydd Leonard Mars.
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Cwricwlwm i Gymru
Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Oed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw