Defnyddio sgiliau digidol o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a chyfrannu eich eitemau a phrojectau
CAM 1 Cofrestru
Creu cyfrif ar gyfer eich ysgol, dosbarth neu ddisgyblion. Ar gyfer Blwyddyn 6 neu iau, crëwch gyfrif dosbarth fel y gall disgyblion gadw eitemau fel drafftiau i chi eu hadolygu cyn cyhoeddi. Ar gyfer Blwyddyn 7 neu hŷn, fe gewch ddewis gadael i'r disgyblion greu eu cyfrifon eu hunain.
CAM 2 Gwella sgiliau a chymwyseddau digidol
Gwella sgiliau a chymwyseddau digidol trwy wneud tasgiau syml, fel: uwchlwytho lluniau neu ddogfennau; neu gwneud fideo. Mae'r gwaith hyn yn eich galluogi i gyflawni amcanion llinyn FfCD ehangach fel rhain:
LLINYN
Dinasyddiaeth | Hunaniaeth, delwedd ac enw da Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth |
|
Rhyngweithio a Chydweithio | Cydweithio Storio a rhannu |
|
Cynhyrchu | Cynllunio, cyrchu a chwilio Creu |
Syniadau am dasgau dosbarth 2020
Creu Capsiwl Amser Digidol o Gyfnod y Cloi – gyda chymorth eich disgyblion, rydym am greu capsiwl digidol ar ein gwefan er mwyn i ni a chenedlaethau'r dyfodol ddeall eu stori yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Gwaith dosbarth digidol
Unwaith y byddwch wedi meistroli uwchlwytho, gallwch symud ymlaen at sgiliau FfCD mwy datblygedig a chydlynu Project dosbarth gan ddefnyddio'r wefan. Darluniwch digwyddiad neu amser yn y gorffennol drwy greu stori, casgliad neu lwybr. Darllenwch ein canllaw Projectau Digidol, sy'n eich galluogi i gyflawni amcanion llinyn FfCD ehangach.