Mae gwefan Casgliad y Werin Cymru yn llawn adnoddau yn barod i’w defnyddio, ond gallwch chi a’ch myfyrwyr hefyd gyfrannu eich cynnwys eich hun. Defnyddiwch y canllawiau yma wrth fynd ati i roi prosiect gyda’i gilydd. Dylai’ch myfyrwyr fynd trwy y rhan fwyaf o’r camau yma, er mwyn iddynt ennill y sgiliau yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD). Mae’r sgiliau yma yn y golofn ar y dde, ond mae rhai sgiliau fel rhannu a chydweithio yn cael eu defnyddio trwy gydol y prosiect.
CAM 1 Syniadau
Meddyliwch am stori yr hoffech chi ddweud, neu bwnc yrhoffech ei archwilio. Mae amryw o ffyrdd y gallwch gyfrannu at Gasgliad y Werin. Dyma rai enghreifftiau:
Defnyddio cynnwys sydd ar y wefan yn barod er mwyn dweud eich stori eich hun am y pwnc.
Ymchwilio a digideiddio deunydd er mwyn ei uwchlwytho a chreu casgliad. Gall hyn gynnwys ymchwilio hanes lleol a chyfweld aelodau teulu!
Creu cynnwys fel fidio, a gallwch hefyd ychwanegu eitemau (e.e. lluniau) i gydfynd â’r prif eitem.
Uwchlwytho prosiect yr ydych wedi ei wneud yn yr ysgol.
Amlinellwch yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud, a hyrwyddwch y myfyrwyr i osod eu meini prawf llwyddiant eu hunain.
Cyswllt â'r FfCD
- Cynhyrchu—Cynllunio, cyrchu a chwilio
CAM 2 Casglu Gwybodaeth
Cynlluniwch sut y byddech yn dod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol; yn cynnwys unrhyw gyfweliadau, clipiau sain, fideos neu luniau y byddech eisiau eu defnyddio. Edrychwch ar wefan Casgliad y Werin I weld beth sydd yno yn barod hwyrach yr hoffech ei gynnwys yn eich ymchwil.
Cynlluniwch yr offer y bydd angen arnoch i recordio neu storio gwybodaeth, fel sganiwr neu gamerâu.
Casglwch y wybodaeth, yna digideiddiwch a chadw’r wybodaeth a gasglwyd mewn ffordd addas; gan ddefnyddio storfeydd cwmwl, ffolderi ayyb.
Rhannwch y wybodaeth yn electronig rhwng pawb sydd yn gweithio ar y prosiect.
Cyswllt â'r FfCD
CAM 3 Cynllunio cynnwys
Cynlluniwch y ffordd orau o adrodd eich stori. Lluniwch gynllun gyda’r myfyrwyr gan lenwi un o’n templedi ni, neu hwyrach y buasai myfyrwyr hyn yn gallu creu eu templedi eu hunain.
Mathau o gynnwys:
Stori (lle i lot o destun gyda lluniau a chyfryngau eraill ar yr un dudalen)
Casgliad (lluniau, fideos, PDFs wedi eu casglu at ei gilydd gyda disgrifiad, a gall sgrolio trwyddynt)
Llwybrau (lluniau, fideos ac ati wedi eu gosod ar lwybr ar fap)
Cyswllt â'r FfCD
CAM 4 Creu
Gwnewch yn siŵr fod gennych ganiatâd unrhyw un sydd mewn llun yr ydych wedi ei gymryd, neu fod yr hawlfraint wedi ei glirio ar gyfer unrhyw luniau yr ydych am uwchlwytho (dim angen clirio hawlfraint ar gyfer lluniau sydd ar y wefan yn barod). Edrychwch ar ein tudalen cymorth ar ganiatâd a hawlfraint am fwy o gymorth.
Uwchlwythwch yr eitemau ac ychwanegwch metadata. Gwybodaeth angenrheidiol yw hyn i gyd-fynd gyda’ch eitem fel teitl, dyddiad, lleoliad a disgrifiad. Gweler y taflenni gwybodaeth am gymorth gyda metadata.
Crëwch eich stori, casgliad neu lwybr! Rydym yn argymell eich bod yn adolygu'r cynnwys ac yn pwyso ‘cyhoeddi’ ar ran y cyfrif a’ch myfyrwyr.
Cyswllt â'r FfCD
CAM 5 Gwerthuso
Anogwch fyfyrwyr i gynnig sylwadau ar waith ei gilydd.
Gall y myfyrwyr newid y cynnwys yn seiliedig ar hyn, neu amlinellu sut y buasent yn gwneud pethau’n wahanol y tro nesaf.
Gwnewch gofnod o’r gwerthusiad.
Cyswllt â'r FfCD
-
- Rhyngweithio a chydweithio—Cyfathrebu
- Rhyngweithio a chydweithio—Cydweithio
- Rhyngweithio a chydweithio—Storio a rhannu
- Cynhyrchu—Cynllunio, cyrchu a chwilio
- Cynhyrchu—Cynllunio, cyrchu a chwilio
- Dinasyddiaeth—Hunaniaeth, delwedd ac enw da
- Dinasyddiaeth—Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth
- Rhyngweithio a chydweithio—Cydweithio
- Cynhyrchu—Creu
- Cynhyrchu—Gwethuso a gwella
-