Gyda chymorth eich disgyblion, rydym am greu capsiwl digidol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gofio eu stori
Ar hyd y canrifoedd, mae dyddiaduron, ffotograffau, dogfennau a recordiadau wedi ein helpu i ddeall cyfnodau hanesyddol eraill a sut mae pobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd, yn arbennig felly mewn cyfnod o argyfwng.
Gyda’ch cymorth chi, hoffem greu capsiwl amser digidol ar gyfer ein gwefan er mwyn i ni, a chenedlaethau’r dyfodol ddeall stori eich disgyblion yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Cynhwysion y Capsiwl Amser
Dyma rai awgrymiadau o ran cynhwysion ar gyfer prosiect capsiwl eich disgyblion.
1. Gofynnwch i’ch disgyblion gymryd ffotograff neu recordiad o’r 3 hoff weithgaredd sydd wedi dod â hapusrwydd iddyn nhw yn ystod cyfnod y cloi. Awgrymiadau:
- mynd am dro/ar gefn beic yn ddyddiol
- treulio mwy o amser gyda’u teulu
- bod yn greadigol
2. I bwy rydych chi’n ddiolchgar? Y GIG? Gweithwyr Allweddol? Rhieni? Gofynnwch i’ch disgyblion gofnodi pethau fydd y neu hatgoffa o pwy wnaeth eu helpu trwy’r pandemig hwn. Awgrymiadau:
- Cymryd ffotograff o’r enfysau maent wedi eu creu
- Cofnodi’r clapio i ofalwyr ar nosweithiau Iau
- Tynnu llun o bobl rydych chi’n ddiolchgar amdanynt
3. Beth yw barn eich teulu chi? Gofynnwch i’ch disgyblion gyfweld aelod o’r teulu gartref neu o bell. Gallant ddangos eu sgiliau digidol trwy recordio rhai o’r cyfweliadau hanes llafar yma. Awgrymiadau o ran cwestiynau:
- Sut mae bywydau aelodau o’r teulu wedi newid ers cyfnod y cloi?
- Beth sy’n eu gwneud yn hapus/trist yn ystod yr amser heriol hwn?
Cyhoeddwch eich Capsiwl Amser ar wefan Casgliad y Werin Cymru
Darllenwch ein canllawiau ar ‘Sut i Gyhoeddi eich Capsiwl Amser ar CyW'
Gall disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gasglu eu cynnwys nawr, a gallwch ei lwytho i’r wefan gyda’ch gilydd yn yr ystafell ddosbarth pan fyddant wedi dychwelyd i’r ysgol.
Gall disgyblion Cyfnod Allweddol 3 & 4 ddatblygu a dangos eu sgiliau digidol trwy uwchlwytho cynnwys i’r wefan eu hunain
Cofiwch ychwanegu’r tag 'capsiwl amser digidol' i’ch cynnwys pan fyddwch yn cyheoddi!
Cymorth ar-lein gyda’ch prosiect
Darllenwch ein Canllawiau Hanes Llafar i Ysgolion, a grewyd mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Hanes Llafar, am awgrymiadau ar sut i gyfweld y gallwch chi eu trosglwyddo i’ch disgyblion.
Mae ein canllawiau Sut I hefyd ar gael ar ein gwefan os ydych angen cymorth pellach ar sut i uwchlwytho prosiect capsiwl amser eich disgyblion.
Am gymorth a chefnogaeth bellach gysylltwch â'n Swyddog Addysg, Catalena Angele:
[email protected]
Byddwch yn rhan o Hanes Cymru?
Unwaith y bydd cynnwys eich disgyblion ar ein gwefan, bydd yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i ddeall sut gwnaeth Cymru ymdopi yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Gweithio gyda’n partneriaid
Rydym hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i gasglu straeon ac atgofion cyfnod y cloi er mwyn i ni a chenedlaethau’r dyfodol gofio amdano. Bydd rhai o’r straeon hyn yn ymddangos ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.
Dysgwch fwy am eu prosiectau: Amgueddfa Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru