Yr Holocost a Chymru: Ffoaduriaid Iddewig fel gweision domestig
537 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Mae’r wers hon yn edrych ar ffoaduriaid o’r Almaen Natsïaidd a ddaeth yn weision domestig yng Nghymru. Dyma’r alwedigaeth fwyaf cyffredin ymhlith ffoaduriaid, gyda 20,000 o fenywod o’r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia yn dod i mewn i Brydain ar fisas domestig cyn Medi 1939.
Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar yn disgrifio profiad Fanny Höchstetter fel gwas domestig a morwyn siambr mewn gwesty.
Delwedd uchod: Fanny a Bertl Höchstetter yn fuan ar ôl eu diswyddo o wasanaeth sifil yr Almaen ym 1933. Mae eu hystumiau'n dangos eu barn am Hitler. Delwedd: © Ernie Hunter.
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Cyfnod Allweddol 4
Hanes, Sgiliau Llythrennedd
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw