Hyrwyddo eich Deunydd Dysgu

957 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Yma yn adran ADDYSG CYW gallwch ddod o hyd i adnoddau addysg i ddysgwyr o bob oed. Mae rhai o’r adnoddau hyn wedi cael eu creu gan dîm Casgliad y Werin, rhai gan ein sefydliadau partner cyfunol*, a rhai gan ein partneriaid yn y gymuned, mewn addysg neu yn y sector Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau.

Ydych chi’n rhan o unrhyw brojectau cymunedol, mewn addysg neu yn y sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau? Oes gyda chi unrhyw ddeunydd addysgiadol yr hoffech chi ei rannu yn ehangach? Ydych chi’n gweithio ar broject a fyddai’n ddiddorol i gynulleidfa addysg? Oes gyda chi syniad am adnodd yr hoffech ei ddatblygu ymhellach?

Gwyliwch y fideo byr hwn i weld sut y gall Casgliad y Werin Cymru eich helpu i hyrwyddo eich deunydd dysgu

 

* Y tri sefydliad partner cyfunol sy’n rhan o Gasgliad y Werin Cymru yw: Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

 

Dysgu Gydol Oes

Mae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.

Cwricwlwm i Gymru

Lifelong learning

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw