Hughesovka - Ymfudo a diwydiannu Cymru yn Donbas, dwyrain Wcráin (Ymerodraeth Rwsia gynt)
647 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Mae’r adnodd yma’n gwahodd dysgwyr i edrych ar hanes diwydiannu Cymru o safbwynt gwahanol. Sefydlwyd dinas Hughesovka, sef dinas Donetsk yn rhanbarth Donbas, dwyrain Wcráin erbyn heddiw (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) gan weithwyr o Gymru a Phrydain. Gan ddefnyddio Hughesovka fel astudiaeth achos, nod yr adnodd yw galluogi dysgwyr i ddatblygu safbwynt mwy amlochrog a beirniadol ar hanes diwydiannu yn eu gwlad ac ymgysylltu’n feirniadol â deunydd archifol.
Awduron: Clara Defachel a Dr Victoria Donovan, Prifysgol St Andrews, yr Alban. Casgliad y Werin Cymru.
Daw’r deunydd ffynhonnell (ffotograffau a delweddau eraill) yn yr adnodd hwn o Archif Ymchwil Hughesovka, a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac fe’i hatgynhyrchir yma drwy eu caniatâd caredig.
Cyfnod Allweddol 3 a 4
Hanes
Cwricwlwm i Gymru 2022 - Cam Cynnydd 3 a 4
Y Dyniaethau
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw