Casgliad Hughesovka - Ymfudo a diwydiannu Cymru yn Donbas, dwyrain Wcráin (Ymerodraeth Rwsia gynt)
Mae'r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Hughesovka - Ymfudo a diwydiannu Cymru yn Donbas, dwyrain Wcráin (Ymerodraeth Rwsia gynt), a grëwyd gan Prifysgol St Andrews, yr Alban. Delweddau drwy garedigrwydd Archifau Morgannwg.
Mae’r adnodd yma’n gwahodd dysgwyr i edrych ar hanes diwydiannu Cymru o safbwynt gwahanol. Sefydlwyd dinas Hughesovka, sef dinas Donetsk yn rhanbarth Donbas, dwyrain Wcráin erbyn heddiw (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) gan weithwyr o Gymru a Phrydain. Gan ddefnyddio Hughesovka fel astudiaeth achos, nod yr adnodd yw galluogi dysgwyr i ddatblygu safbwynt mwy amlochrog a beirniadol ar hanes diwydiannu yn eu gwlad ac ymgysylltu’n feirniadol â deunydd archifol.