Archif Cof - Dementia
1433 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Darganfyddwch yr ‘Archif Cof’ yng Nghasgliad y Werin Cymru a dysgwch am ddementia.
Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyflwr cyffredin sy’n newid bywydau. Gall hefyd roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi nhw i gefnogi aelodau o’u teulu a’u cymuned sy’n byw gyda dementia.
Bydd yr adnodd hwn:
yn eich cyflwyno chi i ‘Archif Cof’ ar wefan Casgliad y Werin Cymru, sef archif o ddelweddau y gallwch eu defnyddio wrth hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia
yn eich cyflwyno chi i adnoddau addysg y Gymdeithas Alzheimer’s i ysgolion sy’n gwneud addysgu a dysgu am ddementia yn hawdd
yn rhoi cyngor ar sut allwch chi ddefnyddio Archif Cof mewn dau weithgaredd atgofion ymarferol: Creu Coeden Gof a Chreu Llinell Amser Cof
yn eich cyfeirio at adnoddau dementia eraill am ddim, gan amlygu’r rhai sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg
Gwyliwch fideo byr am yr Archif Cof.
Y Cyfnod Sylfaen
Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4
Addysg bersonol a chymdeithasol
Cwricwlwm Cymru 2022
Iecheyd a Lles, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw