Archif Cof - Mwyngloddio
Dyma ddetholiad bach o ddelweddau o fwyngloddio y gellir eu defnyddio ar gyfer annog atgofion. Gellir lawrlwytho ac argraffu'r delweddau yn y casgliad hwn i'w defnyddio mewn sesiynau hel atgofion.
Noder bod yn rhaid i bob eitem gael ei defnyddio o fewn i delerau'r Drwydded Archif Greadigol, ac ni ellir gwneud defnydd masnachol o unrhyw eitem. Lawrlwythwch fel ffeil Zip yma. (Bydd hyn yn mynd â chi i Dropbox lle cewch y botwm lawrlwytho yn y gornel dde uchaf.)
Mewn cymunedau diwydiannol mae cloddio am lo a mwynau yn rhan bwysig o fywydau pobl ac yn dopig gwych ar gyfer gwaith hel atgofion. Os hoffech weld mwy o luniau fel hwn, mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gasgliad gwych o ddarluniau a golygfeydd stryd o Gymru ddiwydiannol yn Archif Falcon Hildred, yn ogystal â chyfres helaeth o ffotograffau o lowyr a glofeydd o’r 1970au a dechrau’r 1980au yng Nghasgliad John Cornwell.