Archif Cof - Dementia's profile picture

Archif Cof - Dementia

Dyddiad ymuno: 25/07/18

Amdan

Bywgraffiad CY: 

Menter o eiddo Casgliad y Werin Cymru (CWC) sy’n cael ei harwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw 'Archif Cof' Cyfrif wedi'i guraduro yw hwn, sydd â’r nod o hwyluso gwaith hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Mae'r Archif Cof ar gael i bawb ei ddefnyddio. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Reina van der Wiel.

Mae'r casgliadau wedi'u rhannu'n themâu a degawdau (o fewn cof pobl fyw), ar sail adborth staff gofal iechyd proffesiynol. Mae nhw'n cynnwys delweddau yn bennaf, ond mae rhai clipiau sain, a fideos 360 gradd a grewyd gan Atgofion Melys sy’n benodol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia. Gellir lawrlwytho ac argraffu pob delwedd o'r Archif Cof i'w defnyddio mewn sesiynau hel atgofion. Mae yna hefyd dudalen ‘Adnoddau eraill" (dan Storïau) sy’n rhestru adnoddau di-dâl ychwanegol sydd ar gael at bwrpas hel atgofion.

Yn olaf, rydym wedi creu adnodd addysgu Archif Cof CWC ar gyfer disgyblion Y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 – 4.

Bydd yr adnodd hwn:

- yn eich cyflwyno chi i Archif Cof;

- yn eich cyflwyno chi i adnoddau addysg y Gymdeithas Alzheimer’s i ysgolion sy’n gwneud addysgu a dysgu am ddementia yn hawdd;

- yn cynnig dau weithgaredd hel atgofion ymarferol y gall dysgwyr eu hymarfer yn yr ystafell ddosbarth neu o bell gan ddefnyddio'r Archif Cof: creu Coeden Gof neu Linell Amser Cof.

Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig mae’r gweithgareddau hyn wrth gwrs. Cymerwch olwg ar ein cyfres newydd o bosteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof (isod) sydd ar gael am ddim i unrhyw un eu defnyddio.

Gwefan: https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/archif-cof/ (Yn agor mewn ffenestr newydd)

  • 408
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 558
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 582
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 529
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 612
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 590
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 560
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 511
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi