Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Tram olaf o lo a godwyd yn y Rhondda, 1986. Cafodd y llun ei dynnu yng Nglofa Maerdy gan John Cornwell.
Yn 1947 cafodd y diwydiant glo ei wladoli; ddwy flynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fod yn ailadeiladu pyllau glo Maerdy Rhif 3 a Rhif 4 yn llwyr, ger Pen Cwm Rhondda-fach. Roedd y pwll wedi cau ers 1940 ac wedi mynd â'i ben iddo.
Chwalwyd y rhan fwyaf o olion y strwythurau gwreiddiol gan y gwaith adeiladu, ond trawsffurfiwyd y lofa i fod yn drydanol o'r radd flaenaf gyda thai weindio newydd, gwaith paratoi glo, swyddfeydd gweinyddol, ffreutur,
baddonau pen pwll a chanolfan feddygol. Roedd datblygiadau tanddaearol yn cynnwys ffyrdd newydd o gysylltu â glofa Bwllfa yng Nghwm Cynon.
Cafodd safle Pyllau glo Maerdy Rhif 1 a 2 eu cadw ar gyfer seidins rheilffordd oedd yn gysylltiedig â Rhifau 3 a 4, ac roeddent yn parhau i gael eu defnyddio i wasanaethu'r lofa newydd.
Codwyd y glo olaf yng Nglofa Maerdy yn 1986, er bod glo yn parhau i gael ei gloddio a'i ddwyn i'r wyneb yng Nghloddfa Drifft y Tŵr, oedd wedi ei gysylltu yn danddaearol â'r lofa. Caeodd y Maerdy yn 1990 ac ers hynny mae'r safle wedi ei ddymchwel a'i glirio.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (3)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw