Trwydded Archif Greadigol

Mae Casgliad y Werin Cymru yn defnyddio (gyda rhai addasiadau) y drwydded a ddatblygwyd gan Grŵp y Drwydded Archif Greadigol, sy'n cynnwys y BBC, Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), Channel 4, y Brifysgol Agored, Teachers TV, yr Archif Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd (MLA) ac ITN Source.

I gael rhagor o wybodaeth am y Drwydded Greadigol, gweler wefan y BBC.

Cynllun un drwydded gyffredin i ddefnyddwyr yw'r Drwydded Archif Greadigol, ar gyfer lawrlwytho delweddau symudol, sain a delweddau llonydd ac mae'n gosod rheolau anfasnachol llym parthed ei defnydd.

Y prif newid o'r Drwydded Archif Greadigol wreiddiol yw bod y mwyafrif o'r delweddau yng Nghasgliad y Werin (ac eithrio'r rhai a ddarparwyd gan y BBC) ar gael i ddefnyddwyr y rhyngrwyd ledled y byd. Serch hynny, mae ambell eithriad i hyn, ond mae'r delweddau hyn wedi'u nodi'n glir.

Y Drwydded

Gan mai dogfen gyfreithiol yw hi, mae'r drwydded lawn yn bur faith, ac felly mae Grŵp y Drwydded Archif Greadigol wedi cynhyrchu rheolau sylfaenol i esbonio'n gyflym sut mae'r drwydded yn gweithio.

Crynodeb o'r rheolau

Y pedair rheol sylfaenol yn fyr. Yn y bôn, ceir pedair prif reol y mae angen ichi wybod amdanyn nhw a chytuno â nhw er mwyn cael defnyddio deunyddiau ar Casgliad y Werin. Sylwch nad yw'r crynodeb hwn yn disodli'r Drwydded Archif Greadigol ond yn hytrach yn ymdrech i gyfleu'r cysyniadau allweddol.

1. Anfasnachol

Rhaid i unrhyw beth y byddwch yn ei greu drwy ddefnyddio'r cynnwys sydd ar gael fod at eich dibenion anfasnachol chi'ch hun. Mae hyn yn golygu y cewch ei rannu'n ddirwystr gyda'ch teulu a'ch ffrindiau a defnyddio'r cynnwys at ddibenion addysg. Serch hynny, ni chewch werthu'r cynnwys nac elwa'n ariannol mewn unrhyw fodd drwy ddefnyddio'r cynnwys. Er enghraifft, ni chaiff artistiaid godi tâl mynediad i arddangos gwaith y maen nhw wedi'i gynhyrchu â'r cynnwys.

2. Rhannu'n Gyfartal

Mae croeso ichi rannu'r gweithiau (‘Gweithiau Deilliadol' yw'n henw ni arnyn nhw) y byddwch yn eu cynhyrchu â'r cynnwys hwn. Os ydych chi'n dymuno rhannu'ch Gweithiau Deilliadol, gofalwch eich bod yn gwneud hynny o dan delerau'r Drwydded Archif Greadigol, a gofalwch eich bod yn 'cydnabod' (gweler isod) pob creawdwr a chyfrannwr y cynhwysir eu cynnwys yn y Gweithiau Deilliadol.

3. Cydnabod (Priodoli)

Dyma'ch cyfle i sicrhau bod pawb yn gwybod beth rydych chi wedi'i wneud, ond mae angen hefyd ichi sicrhau bod pobl eraill sydd wedi cyfrannu at waith (Gwaith Deilliadol) yn cael eu cydnabod hefyd.

4. Dim Cymeradwyo a Dim Difrïo

Rydyn ni am ichi fod yn greadigol â'r cynnwys sydd ar gael ichi ond peidiwch â'i ddefnyddio at ddibenion cymeradwyo, ymgyrchu, difenwi neu ddifrïo. Er y caiff sefydliadau ffydd ddefnyddio'r cynnwys at ddibenion adnoddau ac addysgu, rhaid iddyn nhw ofalu nad ydyn nhw'n torri'r gofynion ‘Dim Cymeradwyo' a nodir yn nhelerau'r Drwydded. Yn yr un modd, caiff Sefydliadau Addysgol amlygu dibenion y cynnwys yn yr ystafell ddosbarth ond ni chânt ei ddefnyddio i hyrwyddo'r ysgol neu'r coleg (e.e. ar wefan ysgol). Diwedd y gân yw hyn: peidiwch â defnyddio'r cynnwys i hybu sefydliadau gwleidyddol neu elusennol nac at ddibenion ymgyrchu neu hyrwyddo, a chofiwch drin pobl eraill a'u gwaith â pharch, yn y modd y byddech yn disgwyl iddyn nhw eich trin chithau a'ch gwaith.

Y Drwydded Lawn

Dyma'r drwydded lawn. Mae'n ddogfen gyfreithiol.

Y Drwydded

Mae'r Drwydded Archif Greadigol hon yn eich galluogi Chi i ddefnyddio a dosbarthu Gweithiau yn y ffyrdd ac ar y telerau a nodir yn y Drwydded hon. Trinnir y ffaith eich bod Chi yn defnyddio'r Gwaith fel arwydd eich bod yn derbyn y Drwydded hon. Mae pob term sy'n dechrau â phriflythyren wedi'i ddiffinio yng Nghymal 1 isod. Mae'r unigol yn cynnwys y lluosog ac i'r gwrthwyneb, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Trwydded yw hon rhwng: 'y Trwyddedwr' sef yr endid sy'n cynnig y Gwaith o dan delerau ac amodau'r Drwydded hon a 'Chi' (unigolyn preifat neu aelod o sefydliad addysgol) sy'n cytuno fel a ganlyn:

1. Diffiniadau

  • Ystyr "Anfasnachol" yw dibenion personol neu ddefnydd at ddibenion addysgol mewn unrhyw sefydliad addysgol a restrir yn Atodiad A, ond heb gynnwys unrhyw ddibenion masnachol (gan gynnwys dibenion proffesiynol, dibenion gwleidyddol neu ddibenion hyrwyddo);
  • ystyr "Awdur Gwreiddiol" yw'r unigolyn (neu'r endid) a greodd y Gwaith ac a ddylai gael ei Gydnabod bob amser;
  • ystyr "Cydnabod" (Priodoli) yw cydnabod Awduron Gwreiddiol a/neu Drwyddedwyr unrhyw Weithiau a/neu Weithiau Deilliadol y byddwch yn eu Rhannu;
  • ystyr "Dim Cymeradwyo" yw bod rhaid i Chi beidio â defnyddio'r Gwaith a/neu'r Gwaith Deilliadol mewn unrhyw ffordd a fyddai'n awgrymu neu'n ymhlygu cefnogaeth, cysylltiad neu gymeradwyaeth gan y Trwyddedwr;
  • ystyr "Gwaith" yw'r gwaith a ddiogelir gan hawlfraint a gynigir o dan delerau'r Drwydded hon;
  • ystyr "Gwaith Deilliadol " yw unrhyw waith a grëir drwy olygu, addasu neu drosi'r Gwaith mewn unrhyw gyfrwng neu unrhyw waith a wneir o nifer o weithiau ar wahân y cynhwysir y Gwaith ynddo yn ei gyfanrwydd heb ei addasu;
  • ystyr "Logo" yw logo'r Drwydded Archif Greadigol a gyplysir â'r Gwaith neu a ymgorfforir ynddo;
  • ystyr "Rhannu" yw cyfleu neu ddarparu i aelodau eraill o'r cyhoedd drwy gyhoeddi, dosbarthu, perfformio neu fathau eraill o ledaenu;
  • ystyr "Rhannu'n Gyfartal" yw Rhannu'r Gwaith a/neu'r Gwaith Deilliadol o dan yr un telerau ac amodau ag a roddir i Chi o dan y Drwydded hon;
  • ystyr "Trwydded" yw'r Drwydded Archif Greadigol hon.

2. Rhoi Trwydded

2.1 Mae'r Trwyddedwr drwy hyn yn rhoi i Chi drwydded Anfasnachol, Dim Cymeradwyo, di-dâl, nad yw'n unigryw yn y Deyrnas Unedig drwy gydol parhad hawlfraint y Gwaith i gopïo a/neu Rannu'r Gwaith a/neu i greu, copïo a/neu Rannu Gweithiau Deilliadol ar unrhyw lwyfan mewn unrhyw gyfryngau.

2.2 ER HYNNY dim ond ar yr amodau a ganlyn y darperir y drwydded a roddir yng Nghymal 2.1 i Chi:

2.2.1. eich bod yn cyfeirio at y Drwydded hon (drwy URL/URI, ar lafar neu fel y bo'n briodol i'r cyfryngau a ddefnyddir) ar bob copi o'r Gwaith a/neu'r Gweithiau Deilliadol y byddwch yn eu Rhannu, gan gadw pob hysbysiad sy'n cyfeirio at y Drwydded hon yn gyfan;

2.2.2. eich bod yn Rhannu'r Gwaith a/neu unrhyw Waith Deilliadol o dan delerau'r Drwydded hon yn unig (hynny yw Rhannu'n Gyfartal);

2.2.3 nad ydych yn gosod unrhyw delerau a/neu unrhyw dechnoleg i reoli hawliau digidol ar y Gwaith a/neu'r Gwaith Deilliadol sy'n newid neu'n cyfyngu ar delerau'r Drwydded hon neu unrhyw hawliau a roddir ganddi;

2.2.4. eich bod yn cydnabod (priodoli) yr Awdur Gwreiddiol a/neu'r Trwyddedwr/Trwyddedwyr mewn modd sy'n briodol i'r cyfryngau a ddefnyddir;

2.2.5. nad ydych yn defnyddio'r Gwaith (sy'n cynnwys unrhyw gyfraniadau isorweddol at y gwaith) a/neu unrhyw Waith Deilliadol at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon, yn ddifrïol neu'n dramgwyddus mewn modd arall nac yn dwyn enw da'r Trwyddedwr (neu berchnogion yr hawliau isorweddol) i anfri drwy ddefnyddio'r Gwaith neu unrhyw Waith Deilliadol;

2.2.6 eich bod yn cadw'r Drwydded hon yn gyfan ac yn ddigyfnewid, gan gynnwys pob hysbysiad sy'n cyfeirio at y Drwydded hon.

2.2.7 eich bod yn gosod y Logo ar unrhyw Waith neu Waith Deilliadol y byddwch yn eu Rhannu o dan delerau'r Drwydded hon er mwyn nodi ffynhonnell y Gwaith a/neu'r Gwaith Deilliadol ac er mwyn dangos eich bod yn cytuno â thelerau'r Drwydded. Ni chaniateir i'r Logo gael ei newid na'i aflunio mewn unrhyw ffordd na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

2.3 Bob tro y byddwch yn Rhannu'r Gwaith a/neu'r Gwaith Deilliadol, mae'r Trwyddedwr/Trwyddedwyr yn cynnig i'r derbynnydd drwydded Rhannu'n Gyfartal i'r Gwaith ar yr amod bod y derbynnydd yn cydymffurfio â thelerau'r Drwydded hon o ran y Gwaith a'r Gwaith fel y'i hymgorfforir yn y Gwaith Deilliadol.

2.4 Nid yw'r Drwydded hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod gennych Chi o dan unrhyw gyfraith sy'n gymwys, gan gynnwys delio teg neu unrhyw eithriad arall i dorri hawlfreintiau.

3. Gwarantau a Nacâd

3.1 Mae'r Trwyddedwr yn gwarantu naill ai mai'r Trwyddedwr yw'r Awdur Gwreiddiol neu ei fod wedi sicrhau pob hawl sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r Drwydded hon ynglŷn â'r Gwaith i Chi a bod ganddo'r hawl i roi caniatâd i ddefnyddio'r Logo fel y'i nodir yn y Drwydded hon.

3.2 Ac eithrio fel y nodir yn bendant yng Nghymal 3.1 nid yw'r Trwyddedwr yn rhoi unrhyw warant arall, yn bendant neu ymhlyg, ynglŷn â'r Gwaith.

4. Cyfyngu Atebolrwydd

4.1 Yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaeth na chaniateir ei hepgor neu ei chyfyngu o dan y gyfraith a/neu unrhyw rwymedigaeth y gallech ei hysgwyddo tuag at drydydd parti am fod y Trwyddedwr wedi torri ei warant yng Nghymal 3.1 uchod, ni fydd y Trwyddedwr yn atebol ac mae drwy hyn yn bendant yn hepgor unrhyw rwymedigaeth a phob rhwymedigaeth dros golled neu ddifrod sut bynnag a phryd bynnag y'u hachosir i Chi neu gennych Chi.

5. Terfynu

5.1 Bydd yr hawliau a roddir i Chi o dan y Drwydded hon yn terfynu'n awtomatig os byddwch yn torri unrhyw rai o delerau'r Drwydded hon. Er hynny, ni fydd trwyddedau unigolion neu endidau sydd wedi cael Gweithiau Deilliadol gennych o dan y Drwydded hon yn cael eu terfynu ar yr amod bod yr unigolion neu'r endidau hynny'n parhau i gydymffurfio'n llawn â thelerau'r Drwydded hon.

6. Cyffredinol

6.1 Os dyfernir bod unrhyw rai o ddarpariaethau'r Drwydded hon yn annilys neu'n anorfodadwy, ni fydd hynny' effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd gweddill telerau'r Drwydded hon.

6.2 Y Drwydded hon yw'r cytundeb cyfan rhwng y partïon o ran y Gwaith a drwyddedir yma. Nid oes dealltwriaethau, cytundebau na haeriadau o ran y Gwaith sydd heb eu pennu yma. Ni fydd y Trwyddedwr wedi'i rwymo gan unrhyw ddarpariaethau ychwanegol a all ymddangos mewn unrhyw ohebiaeth oddi wrthych Chi.

6.3 Ni fydd gan berson nad yw'n barti i'r Drwydded hon hawliau o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw rai o delerau'r Drwydded hon.

6.4 Mae'r Trwyddedwr yn cadw'r hawl i newid telerau'r Drwydded hon unrhyw bryd. Rhoddir gwybod i Chi am unrhyw newidiadau y mae'r Trwyddedwr, yn unol â'i ddisgresiwn, o'r farn eu bod yn newid telerau'r Drwydded.

6.5 Llywodraethir y Drwydded hon gan gyfraith Lloegr ac mae'r partïon yn ildio'n ddi-alw yn ôl i awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

ATODIAD A

Sefydliadau Addysgol

At ddibenion y Drwydded hon, ystyr sefydliad addysgol yw:

  • y cyrff hynny a nodir o dan adran 174 o Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau 1988, sy'n cynnwys ysgolion, prifysgolion, colegau addysg uwch a cholegau addysg bellach
  • amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau