Archif Cof: Helpu Pobl sy'n Byw gyda Dementia

Yn y blog yma mae Reina van der Wiel (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) a Catalena Angele (Casgliad y Werin Cymru) yn trafod pam y sefydlwyd yr Archif Cof ar wefan Casgliad y Werin Cymru a'i phwysigrwydd wrth hwyluso hel atgofion gyda phobl sy'n byw efo dementia.

Cyfrif wedi'i guraduro sy’n cynnwys 24 o gasgliadau wedi'u rhannu'n themâu a degawdau perthnasol (o fewn cof) sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru yw’r Archif Cof. Gellir defnyddio’r Archif Cof ar gyfer gwaith 'hel atgofion syml' ac ar gyfer gwaith 'hanes bywyd', sy'n edrych ar fywyd person penodol o ddydd ei eni hyd heddiw.

Ond sut cafodd yr Archif Cof ei chreu? Mae Reina, sydd wedi arwain gwaith datblygu'r Archif Cof o'r dechrau, yn esbonio bod y daith wedi cychwyn yn 2016 pan gysylltodd adran Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn mewn ysbyty yn ne Cymru â'r Comisiwn Brenhinol.

"Gofynnon nhw am rodd o luniau er mwyn gwneud y ward asesu i ddynion yn llai clinigol ac yn fwy cyfeillgar i rai oedd yn byw gyda dementia. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig mewn lluniau neu eitemau yn ymwneud â hanes a diwylliant yr ardal leol i'w defnyddio ar gyfer hel atgofion," meddai Reina. "Fe wnaethon ni ddechrau meddwl tybed a oedd gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio efo pobl sy'n byw gyda dementia yn gwybod am adnoddau di-dâl y Comisiwn Brenhinol a sut y gellid eu defnyddio," meddai.

Arweiniodd hyn at ddigwyddiad undydd, a drefnwyd gan y Comisiwn Brenhinol, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr er mwyn archwilio sut y gallent ddefnyddio archifau i ysgogi atgofion. Yn ôl Reina: "Roedd yn amlwg o'r digwyddiad bod staff oedd yn gweithio o fewn y byd iechyd yn awyddus i ymgysylltu â threftadaeth ddigidol ond eu bod nhw, yn gyffredinol, yn brin o amser a heb adnoddau i allu treulio oriau'n pori drwy archifau, gwefannau neu gronfeydd data ar gyfer deunydd addas."

Yn 2018, ymchwiliodd Casgliad y Werin Cymru i'r posibilrwydd o ddefnyddio treftadaeth ddigidol i gynyddu cynhwysiant cymdeithasol a lles. Yn fuan, datblygodd y syniad o greu Archif Cof. "Gellir dadlau bod gwefan Casgliad y Werin Cymru ynddo'i hun yn 'Archif Cof'," meddai Reina. "Fodd bynnag, golyga’r cyfoeth o eitemau sydd ar Gasgliad y Werin Cymru y gall gymryd llawer o amser i ddod o hyd i ddeunydd perthnasol. Felly, penderfynwyd creu cyfrif wedi’i guradu, sef yr 'Archif Cof', gyda’r bwriad o ddarparu un lle – neu, o leiaf, man cychwyn – lle gellir cael deunyddiau archifol am ddim sy'n addas ar gyfer gwaith hel atgofion."

Yn aml, mae gan bobl sy'n byw gyda dementia broblemau cof tymor byr, ond mae’n bosib y gallent ddwyn i gof atgofion o'u plentyndod neu pan oeddent yn oedolion ifanc. "Gall hel atgofion fod yn llesol i'r sawl sy'n byw gyda dementia mewn amryw o ffyrdd. Er enghraifft, nhw yw'r un sy'n adrodd y stori wrth hel atgofion, a gall hyn fod yn brofiad pwerus iawn iddynt. Gall hefyd wneud i bobl deimlo'n well amdanyn nhw eu hunain, gan godi eu hwyliau – neu yn syml gall fod yn hwyl," meddai Reina.

Mae Catalena, Swyddog Addysg Casgliad y Werin Cymru, a Reina wedi bod yn cydweithio i greu adnodd addysgu Archif Cof ar gyfer disgyblion Y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 – 4. Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, "Mae bron i un ym mhob tri o’n pobl ifanc yn adnabod rhywun sy’n byw gyda dementia. Taid neu Nain yw’r person hwn yn aml, ond yn fwyfwy y dyddiau hyn gallai’r person fod yn rhiant. Dyna pam ei bod yn bwysig i bob person ifanc deimlo’n barod ar gyfer hyn a’u bod yn deall sut beth yw byw gyda dementia a chael eich effeithio ganddo." (www.alzheimers.org.uk).

"Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyflwr cyffredin hwn sy’n gallu newid bywydau pobl. Gall hefyd roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi i gefnogi aelodau o’u teulu a’u cymuned sy’n byw gyda dementia," pwysleisiodd Cat. "Mae'r adnodd hwn yn cynnig dau weithgaredd hel atgofion ymarferol y gall dysgwyr eu hymarfer yn yr ystafell ddosbarth neu o bell gan ddefnyddio'r Archif Cof: creu Coeden Gof neu Linell Amser Cof. Nid ar gyfer pobl ifanc yn unig mae'r gweithgareddau hyn wrth gwrs. Cymerwch olwg ar ein cyfres newydd o bosteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof sydd ar gael am ddim i unrhyw un eu defnyddio."

Mae'r adnodd ar gael yn yr adran ADDYSG ar wefan Casgliad y Werin Cymru, dyma adran a grëwyd ar gyfer athrawon sy'n cynnwys 187 o adnoddau addysgu yn seiliedig ar gynnwys sydd ar y wefan. "Crëwyd rhai gan Gasgliad y Werin, a chrëwyd rhai eraill mewn cydweithrediad â'n partneriaid mewn prosiectau cymunedol, ym myd addysg, ac yn y sector Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau," meddai Cat. "Mae cydweithio â'n partneriaid wedi arwain at greu adnoddau hynod gyfoethog, gan eu bod yn dod â chyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a syniadau. Mae adnodd yr Archif Cof yn enghraifft berffaith o hyn ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Reina i'w greu. Cyn bo hir bydd yr adnodd hefyd ar gael i athrawon a dysgwyr ar Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru."

Gofynnais i Reina a Catalena beth yw eu hoff gasgliadau o'r Archif Cof. Er eu bod nhw wedi ei chael hi’n anodd dewis, dywed y ddwy ohonynt eu bod wrth eu bodd â'r casgliad Chwarae. "Mae atgofion plentyndod hapus yn gymaint o bleser i'w rhannu, ac rwyf wrth fy modd yn gwrando ar recordiadau hanes llafar o bobl yn cofio'n ôl am eu hoff deganau a gemau," meddai Cat. "Mae'r delweddau o deganau, meysydd chwarae ysgol a phyllau padlo yn cynhesu'r galon ac yn mynd â mi'n ôl i fy nyddiau ysgol fy hun a gwyliau haf hir fy ieuenctid."

Mae'r casgliad Cerddoriaeth a Neuaddau Dawns yn ffefryn arall. "Mae'n wych gweld cerddorion a diddanwyr o'r gorffennol a phobl wedi gwisgo yn eu dillad gorau ar gyfer noson allan mewn hen neuadd ddawns. Mae'r ddelwedd rydyn ni wedi'i dewis ar glawr yr adnodd addysgol yn dod o'r casgliad hwn ac yn dangos cwpl ifanc yn dawnsio’r jitterbug ym Mae Caerdydd," meddai Reina.

Mae'r Archif Cof ar gael i bawb ei ddefnyddio. Mae'r casgliadau'n cynnwys delweddau yn bennaf, ond mae rhai clipiau sain, a fideos 360 gradd a grewyd gan Atgofion Melys, sy’n benodol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia. Gellir lawrlwytho ac argraffu pob delwedd o'r Archif Cof i'w defnyddio mewn sesiynau hel atgofion.

Hoffech chi gyfrannu eich ffotograffau, recordiadau sain neu fideo i’r Archif Cof? Cysylltwch â ni: [email protected]

 

This article was posted by:

Jessica Roberts's profile picture

Jessica Roberts