Archif Cof - Natur (fideos 360-gradd)
Dyma ddetholiad bach o fideos 360-gradd o dirweddau yng Nghymru. Cawsant eu creu’n benodol i’w defnyddio yn y sector iechyd a lles.
Mae fideos 360-gradd yn caniatáu i chi ryngweithio â’r cynnwys a’i brofi, yn lle dim ond eistedd yn ôl a gwylio. Cynigiant olwg ymgollol i bob cyfeiriad sy’n gadael i chi ddewis ble i edrych.
Os byddwch yn gwylio’r rhain ar gyfrifiadur neu liniadur, gallwch glicio a llusgo â llygoden neu glicio’r saethau yng nghornel chwith uchaf y sgrin ar ôl i’r fideo ddechrau chwarae. Ar ddyfais symudol, gallwch lusgo’ch bys ar draws y sgrin neu ei symud o gwmpas i wahanol gyfeiriadau. (Er nad oes angen ategolyn gwylio i weld fideos 360-gradd, gallwch eu gwylio ag ategolyn fel Google cardboard.)