Archif Cof - Adnoddau Eraill

Eitemau yn y stori hon:

Dyma restr o adnoddau eraill ar gyfer gwaith hel atgofion sydd ar gael am ddim:

- Chwiliwch gynnwys digidol Comisiwn Brenhinol Hebenbion Cymru am wybodaeth am amgylchedd hanesyddol (adeiladau a thirweddau) Cymru ar Coflein. (Am gymorth: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/02/Coflein-Canllaw-Allweddair.pdf ac https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/02/Coflein-Canllaw-Map.pdf.)
- Archwiliwch sut i ddefnyddio cofnodion, cardiau post hanesyddol a chasgliadau arbennig y Comisiwn Brenhinol.
- Chwiliwch gatalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru a detholiad o gynnwys digidol yn y llyfrgell ddelweddau digiDo. (Am gymorth: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/cymorth-catalog/.)
- Archwiliwch gynnwys clywedol wedi'i guradu o brosiect Atgof Byw Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Archwiliwch weithgareddau a phynciau trafod ‘Cysur Mewn Casglu’ gydag Amgueddfa Cymru.
- Archwillwch amgylcheddau Realiti Rhithiol 360-gradd ar gyfer gofal iechyd a lles yng Nghymru yn sianel YouTube Atgofion Melys. (I drafod cynnwys unigryw, ewch i http://atgofion.co.uk.)
- Archwiliwch wrthrychau o'r gorffennol a rhannwch atgofion ynghyd ag Ap My House of Memories a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
- Archwiliwch ffilmiau archifol y Sefydliad Fflim Prydeinig, Britain on Film.
- Archwiliwch ffilmiau archifol yn Archif ITV Cymru/Wales @ sianel YouTube LlGC .
- Archwiliwch ddelweddau, sain a fideo yn Reminiscence Archive y BBC.
- Archwiliwch storïau hanes llafar cyn-aelodau’r gwasanaethau arfog yn ystod blynyddoedd Gwasanaeth Cenedlaethol (1947-1963) yn yr arddangosfa ar-lein a phodcast ‘Cofio Gwasanaeth Cenedlaethol’ (‘National Service Remembered’) gan Same but Different.
- Archwiliwch atgofion am chwaraeon, wedi’u trefnu yn ôl amryw gampau a digwyddiadau, gydag Ail-fyw Atgofion Chwaraeon. Mae’r Rhwydwaith Atgofion Chwaraeon hefyd yn trefnu Clybiau ar-lein neu yn y gymuned lle mae’n defnyddio’r gallu i gofio a siarad am chwaraeon – yn ogystal ag ymarfer corff – i gael hwyl a datblygu gwytnwch gwybyddol.
- Ail-grëwch becyn hanesyddol gyda Nestlé Reminiscence Pack.
- Gwnewch Waith Stori Bywyd gyda thempled Dementia UK.
- Crewch ffilm gyda My Life Films.
- Os ydych yng Nghonwy, benthycwch flwch casglu atgofion o Ganolfan Diwylliant Conwy.