Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Yn y 1840au fe gomisiynwyd cyfres o fapiau i gynorthwyo gyda'r dasg o drefnu taliadau'r degwm. Mae Mapiau Degwm yn crisialu darlun o Gymru gyfan, fwy neu lai, gan roi cipolwg ar ein cenedl oedd ar fin ei thrawsnewid. Bwriad Prosiect Cynefin yn mynd ati i warchod, digideiddio ac archwilio'r mapiau hyn er mwyn sicrhau bod y drysorfa o wybodaeth sydd ynddynt ar gael i unrhyw un, ar lein, am ddim.Mae pobl a diwylliant Cymru wedi'u plethu'n dynn â'n tirwedd, ond mae ein perthynas â'r tir a'r ffordd rydym yn ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig ar draws y canrifoedd. Mae'r ffilm yma yn adrodd hanes newid ein diwylliant trwy gyfrwng yr enwau a roesom i leoedd a gallwn deithio'n ôl mewn amser i ddeall bywydau a phryderon pobl oedd yn byw ganrifoedd yn ôl. *Fersiwn Saesneg o'r fideo ar gael yma: https://www.youtube.com/watch?v=84IalazkhOU

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw