Hanes Pobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru

5025 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Mae Cymru yn wlad amlddiwylliannol, ac mae cysylltiad cryf rhwng ymfudo i Gymru a’n hanes diwydiannol. Hyd heddiw, mae pobl wedi dod i Gymru i weithio, i astudio, i geisio lloches ac i fyw. Rydym ni i gyd yn cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru. Yn y Casgliad yma, ein nod yw dod â straeon pobl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru at ei gilydd.

Mae’r adnodd hwn yn seiliedig ar gynnwys sydd wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Rydym yn gweithio i ymgysylltu â sefydliadau, cymunedau ac unigolion i greu cymynrychiolaeth ehangach a mwy amrywiol o bobl Cymru. Bydd yr adnodd hwn yn tyfu wrth i fwy o gynnwys ddod ar gael. 

Allwch chi helpu? Os oes gennych chi gynnwys allai helpu i adrodd straeon unigolion a chunedau o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru (yn y gorffennol a’r presennol), beth am ei ychwanegu at Gasgliad y Werin Cymru? Am gymorth i uwchlwytho eich cynnwys, gweler ein Canllawiau. Os ydych yn gwybod am gynnwys sydd wedi’i gyhoeddi a fyddai’n cyfoethogi’r adnodd hwn, gadewch sylw isod neu Cysylltwch â ni er mwyn ein helpu i barhau i ehangu’r adnodd hwn.

 

Cwricwlwm i Gymru

Dyniaethau

Oed / Cam Cynnydd: Pawb

(Mae mwyafrif y cynnwys yn addas i ddysgwyr o bob oed, ond dylai athrawon wirio’r cynnwys cyn ei rannu gyda’r plant. Mae’n bosib na fydd pob eitem yn addas, megis cynnwys clyweledol a fideos am derfysgoedd hil 1919.)

 

Dysgu Gydol Oes

Mae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.

 

Casgliad

Rydym wedi casglu’r eitemau hyn ynghyd fel y gallwch eu defnyddio fel adnoddau ima greu gweithgareddau i’ch dosbarth mewn ffordd hawdd a chyflym. Gallwch ddod o hyd i gynnwys gan nifer o gyfranwyr CyW yn y Cysylltiadau Cyflym isod, a thrwy edrych ar y cyfranwyr a’r prosiectau yma:

Back-a-Yard project

Jewish History Association of South Wales (JHASW)

Newport Chinese Community Centre

Treftadaeth Gymreig-Eidalaidd / Welsh-Italian Heritage

SWICA Carnival

HistoricDockProject

Adnodd Dysgu - Cyn Rhyddid, Treftadaeth Jazz Cymru

Windrush Cymru

Cyfnewid Amrywiaeth Digidol Pobl Ifanc

Cwricwlwm i Gymru

Age: 5-8 / Progression Step 2
Age: 8-11 / Progression Step 3
Age: 11-14 / Progression Step 4
age: 14-16 / Progression Step 5
Lifelong learning

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw