Llongwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Nid oedd llongwyr masnach Affricanaidd a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr yn cael eu cydnabod yn ddinasyddion Prydeinig ac ni dderbyniodd eu teuluoedd unrhyw iawndal am eu colled. Lladdwyd llawer o’r morwyr hyn a’r unig gydnabyddiaeth y mae’r mwyafrif ohonynt wedi’i chael yw’r gofgolofn ar Tower Hill lle rhestrir enwau dynion a menywod y Llynges Fasnach a’r Llynges Bysgota a fu farw yn ystod y ddau Ryfel Byd ac nad oes iddynt fedd ond y môr. Fe ddechreuodd porthladdoedd Lerpwl a Chaerdydd ddirywio ar ôl y rhyfel ac arweiniodd y diweithdra difrifol ymhlith llongwyr at derfysgoedd hil. Cafodd oddeutu 2,000 o forwyr croenddu eu hanfon yn ôl i’w gwledydd rhwng 1919 a blynyddoedd cynnar y 1920au mewn ymdrech i dawelu’r sefyllfa, ond arhosodd llawer o’r rheiny yr oedd ganddynt deuluoedd.