Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd yr APAPA yn llong ddosbarth Abosso a gafodd ei hadeiladu a’i lansio ym 1914-1915 gan Gwmni Elder Dempster. Roedd y cwmni hwn yn masnachu ar raddfa fawr â Gorllewin Affrica. Yr Apapa oedd un o’r llongau mwyaf a chyflymaf yn ei lynges helaeth.

Ar ôl gadael Lagos gyda 119 o deithwyr, cafodd yr APAPA ei hebrwng gan 6 distrywlong tuag at arfordir Cymru. Ar ôl cyrraedd, gadawodd y distrywlongau am Aberdaugleddyf, a hwyliodd yr APAPA a’r llongau eraill yn y confoi ymlaen ar eu pennau eu hunain.

Collodd yr APAPA gysylltiad â’r llongau eraill ac aeth ati i igam-ogamu, gan ddilyn y drefn i osgoi llongau tanfor. Aeth heibio i’r Moelrhoniaid. Roedd ymchwydd trwm a gwynt gorllewinol ar 28 Tachwedd 1917. Gydag Ynys Badrig oddi ar yr ochr dde’r llong, roedd hi’n 2 filltir i’r gogledd-ogledd-orllewin oddi ar Drwyn Eilian yn mynd 13½ not pan gafodd ei tharo gan dorpido ‘Eva’ K.III ar ei hochr dde tua’r starn. Roedd y capten Almaenig Heinrich Jeß o U-96 wedi gweld rhodfa uchel yr APAPA yn rhy hwyr wrth iddi nesáu at ei long danfor, ac roedd yn meddwl ei bod yn mynd ar gyflymder o 8 not. Felly taniodd yn rhy bell tua’r starn, ac nid oedd ei griw yn disgwyl i’r torpido wneud llawer o ddifrod o ganlyniad.

Dywedodd Jeß wedyn nad oedd yn gwybod a oedd y torpido cyntaf wedi difrodi’r APAPA gan ei fod wedi camfarnu ei chyflymder, ac oherwydd hyn, a chyda chriw a oedd yn isel eu hysbryd ac yn awchu am suddo llong, taniodd ail dorpido. Trawodd hwn yn nes at y tu blaen. Roedd badau achub yn cael eu gostwng i’r dŵr erbyn hynny a dinistriodd y ffrwydrad fad Rhif 9 ac anafodd deithwyr mewn badau eraill.

Wrth i’r llong ogwyddo, daeth cynheiliaid y corn mwg yn rhydd, a syrthiodd ar fad achub Rhif 5, a oedd yn llawn teithwyr, cyn gallu ei ostwng i’r dŵr. Aeth bad 3 yn sownd yng ngwifrau weiarles y llong, a chafodd eraill eu sugno o dan y dŵr wrth i’r llong suddo.

Yna diflannodd y llong yn gyflym o dan yr wyneb.

Jon Shaw, Amlwch, a ddaeth â’r eitem hwn i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei ffotograffu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw