arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Siart yn dangos y swyddi oedd gan forwyr o dramor yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r wlad lle cawsant eu geni

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Disgrifiad

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynyddodd y nifer o forwyr o dramor wrth i ddynion o Brydain gael eu galw i fynd i ymladd; cafodd nifer o forwyr o Affrica ac India'r Gorllewin, a hefyd morwyr Arabaidd ac Asiaidd eu cyflogi i lenwi'r swyddi hynny.
Roedd 319 o forwyr o dramor a gollodd eu bywydau yn dilyn ymosodiadau gan longau-U yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn lletya yn ardal Tre-biwt a Bae Teigr. Gweithiai dros ddwy draean ohonynt yn ystafell yr injan. Mae'r siart hwn yn dangos o ble roedd y morwyr yn dod yn wreiddiol, ac ym mha ran o'r llong roedden nhw'n gweithio.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw