Llongau a Morwyr Bae Teigr Caerdydd yn dioddef colledion yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Eitemau yn y stori hon:

  • 441
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 716
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 506
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 460
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 483
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Ar noswyl cyn i'r Rhyfel Mawr dorri, roedd y fasnach lo wedi cyrraedd ei lefel uchaf o 10.5m tunnell y flwyddyn; roedd mwy na 100 o fusnesau oedd yn allforio glo ac oddeutu saith deg o gwmniau oedd yn rheoli dros 300 o longau. Yn ystod y Rhyfel gwelwyd cholledion mawr wrth i dros 200 o'r llongau hyn gael eu suddo o ganlyniad i ymosodiadau gan Longau-U yr Almaen. Nid dim ond o amgylch arfordir Cymru a Phrydain roedd y colledion hyn yn digwydd - cai llongau eu suddo ym Môr y Canoldir ac oddi ar arfordir Norwy hefyd. Roeddent y cludo nwyddau megis gwenith, siwgr, mwyn haearn, dur, olew, cyflenwadau militaraidd ac i'r llywodraeth, heb anghofio glo wrth gwrs. Yn drist iawn, collodd sawl un ei fywyd ar y llongau hyn. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynyddodd y niferoedd o forwyr wrth i ddynion o Brydain gael eu galw i ryfela, a chafodd nifer o ddynion o Affrica ac India'r Gorllewin eu cyflogi - yn ogystal â morwyr Arabaidd ac Asiaidd - a hynny er mwyn llenwi'r swyddi oedd yn cael eu gadael yn wag. Y gred oedd y byddai criwiau oedd yn cael eu recriwtio o wledydd lle roedd yr hinsawdd yn boeth yn gallu ymdopi gyda'r gwaith llafurus ar y llongau yn well, ac yn gallu dygymod gyda'r tymheredd eithriadol o uchel yn ystafell yr injan. O ganlyniad cai'r rhan fwyaf o'r morwyr hyn eu defnyddio fel dynion tân, trimwyr, ac i wneud gwaith cludo. Prun ai a oedd unrhyw sail i'r gred yma ai peidio, yn sicr roeddent yn llai abl i wrthsefyll ymosodiad torpedo neu ffrwydryn gan mai'r ystafell injan oedd man gwan pob llong o safbwynt ymosodiadau gan longau -U. Roedd nifer o'r dynion hyn yn lletya ym Mae Teigr. O ddadansoddi ein rhestrau o forwyr a gollwyd yn ystod ymosodiadau gan longau-U, gallwn ganfod bod 319 o'r morwyr tramor hyn wedi bod yn lletya mewn tai yn ardal Nhre-biwt a Bae Teigr. Gwelwn hefyd bod dros dwy draean ohonynt wedi cael eu cyflogi i weithio yn ystafell yr injan ar fwrdd eu llong .