Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Amser maith yn ôl roedd Eifionydd yn lle ynysig, ei phoblogaeth yn denau. Yr unig ffordd i mewn ac allan oedd trwy draciau a llwybrau gwael felly edrychodd y trigolion allan i’r môr. Mae’r sôn morwrol cyntaf yn ystod gwarchae Madog ap Llywelyn ym 1295 pan ddaethpwyd â bwyd a nwyddau i mewn gyda llongau o Iwerddon. Er nad oedd harbwr, gallai llongau bach draethu ar lanw uchel yng nghysgod craig y castell a morglawdd amrwd. Wrth i’r llanw trai a’r llong sychu allan, dadlwythwyd y cargo i mewn i gerti. Deuent â chalchfaen a glo i mewn ar gyfer yr odyn galch, grawn i’r felin a nwyddau cyffredinol.

Pan agorwyd yr harbwr ym Mhothmadog yn 1825 cymerodd dynion Cricieth ran yn y datblygiad fel morwyr, adeiladwyr longau ac fel gweithwyr ar y ceiau. Un o’r llongau cynnar oedd yr ‘Eivion’, yn eiddo i ‘r Capten David Williams, a agorodd siop wrth ymyl lle safai’r eglwys Sant Deiniol heddiw. Gwnaeth llawer o fechgyn Cricieth eu mordeithiau cyntaf ar y llongau Borthmadog yn y fasnach lechi ac yna symud i’r llongau hwylio mawr haearn a dur o Lerpwl a Chaerdydd. Daeth llawer yn gapteiniaid.

Mae’n anodd  credu hynny heddiw, ond roedd dwsinau o’r llongau hyn yn eiddo i berchnogion o Gricieth neu’n cael eu rheoli oddi yno. Y Capten Thomas Williams, o Parciau, oedd yn rhedeg y Cambrian Line. Mordaith nodweddiadol fyddai teithio i Awstralia gyda nwyddau cyffredinol, yna cludo glo neu rawn i Chile neu Periw ac yna yn ôl i Ewrop o amgylch Penrhyn yr Horn gyda guano (baw deryn). Perchennog arall oedd Robert Thomas, Cardigan House, (sydd bellach yn Greystoke), roedd ganddo ef, ac yna ei fab, fflyd o longau hyd at 1922. Roedd y mwyafrif o’r capteiniaid a llawer o’r criwiau o Lŷn ac Eifionydd.

Ar ôl i ddyddiau'r llongau hwylio ddod i ben,  byddai'r dynion lleol (a rhai merched)  yn hwylio ar y stemars o Lerpwl a’r Llynges Frenhinol. Yn y tair mynwent yng Nghricieth mae dros  hanner cant o gapteiniaid wedi claddu neu eu coffáu,  heb sôn am y morwyr, peirianwyr morol, cogyddion ac eraill: collwyd llawer ar y môr. “Does ganddyn nhw ddim bedd ond y môr creulon”.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw