Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cerdyn medalu James Headley o Farbados. Y cyfeiriad arno yw 36-37 Maria Street, Caerdydd. Roedd James yn gogydd ar fwrdd llongau masnach yn ystod ac ar ôl y rhyfel. Yn ôl ei wyres, Lesley Clarke, bu’n gwasanaethu ar long Brydeinig a gafodd ei suddo gan long danfor Almaenig. Cafodd ei gymryd yn garcharor gan yr Almaenwyr a’i drin yn dda ganddynt i bob golwg. Pan ddychwelodd i Brydain dyfarnwyd dwy fedal efydd iddo am ei ddewrder.

Ffynhonnell:
First World War Mercantile Marine Medals and the British War Medal, cyf: BT 351/1/47899, The National Archives, Kew.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw