Llongwyr Masnach Croenddu o Fae Teigr
Roedd llawer o longwyr masnach o Affrica a’r Caribî yn gweithio ar longau masnach Caerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd cymaint ag un rhan o dair o’r gweithlu ar longau masnach Prydain yn bobl liw. Amcangyfrifwyd bod tua mil o longwyr croenddu o Gaerdydd wedi’u lladd ar y môr. Ymgartrefodd llawer o’r rhai a oroesodd y rhyfel yn ardal Trebiwt, a phriodi yno, gan gynyddu poblogaeth groenddu yr ardal o ryw 700 i ryw 3,000 erbyn diwedd y rhyfel.
Awgrymwyd y deyrnged hon gan Tiger Bay and the World.