Skip to main content

Somalieg

Mae pobl Somali yn byw yng Nghaerdydd ers y 1870au. Gan y ddinas hon mae un o'r cymunedau Somali mwyaf hirsefydlog yn y DU. Morwyr oedd y rhai cyntaf i ymsefydlu yma. Daethant yma'n fuan wedi agor Camlas Sŵes ym 1869, pan oedd Caerdydd yn datblygu'n borthladd rhyngwladol o bwys. Yn ystod y 1980au cyrhaeddodd ton arall o fewnfudwyr o Somalia, ar ffo rhag y rhyfel cartref ym Mhenrhyn Somalia. Amcangyfrifir bod dros 8000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe a'r ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd. Dyma'r gymuned ethnig leiafrifol fwyaf yng Nghymru felly.
Mae rhyw 10-15 miliwn yn siarad Somalieg trwy'r byd i gyd. Mae hon yn iaith ag iddi draddodiad hir a chyfoethog o farddoniaeth a llenyddiaeth. Serch hynny, dim ond ym 1972 y daeth y Somalieg yn iaith swyddogol Somalia, a disodli'r ieithoedd trefedigaethol, Saesneg ac Eidaleg, ym maes llywodraeth ac addysg.
Grandewch ar Faisal Mohamed Hashi yn sôn am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd, Gwent. Morwr oedd ei dad a ddaeth i Gymru gyda Llynges Fasnachol Prydain.

Gwelediadau:
4861
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
31/07/2009

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment