Pwnjabeg

Mae tua 93 miliwn o bobl yn siarad Pwnjabeg. Cartre gwreiddiol yr iaith oedd ardal y Pwnjab, a rannwyd rhwng India a Phacistan wedi annibynniaeth ym 1947. Triga tua 70 y cant o siaradwyr Pwnjabeg yn Pacistan, a 30 y cant yn India. Mwslemiaid yw'r mwyafrif o siaradwyr Pwnjabeg Pacistan a defnyddiant yr iaith Urdu ar gyfer crefydd a diwylliant aruchel. Hindi yw iaith crefydd y Pwnjabiaid sy'n dilyn y grefydd Hindw. I'r Sikhiaid, fodd bynnag, Pwnjabeg yw prif iaith eu hysgrythur sanctaidd, y Guru Granth Sahib.
Daeth nifer o Bwnjabiaid i'r Deyrnas Unedig yn y cyfnod rhwng diwedd y 1950au a dechrau'r 1970au. Fe ymgartrefodd y mwyafrif ohonynt o gwmpas Llundain, Canolbarth Lloegr a threfi tecstilau gogledd Lloegr. Fodd bynnag, nid o India a Phacistan yn unig y daethant. Roedd llawer ohonynt yn ddynion busnes a phobl broffesiynol o Ddwyrain Affrica, lle'r oedd Pwnjabiaid wedi mudo fel masnachwyr yn gynharach yn yr ugeinfed ganrif.
Yng Nghymru, gwyddom fod siaradwyr Pwnjabi wedi eu cofnodi mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, sir Ddinbych, Caerdydd, sir y Fflint, Merthyr Tudful, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot a Thorfaen. Gwrandewch ar Swinder Chadha, a fagwyd yn Delhi ond a ddaeth i Gymru o Iran yn ystod yr 1980au. Mae'r Sikhiaid sy'n addoli yn ei Gurdwara lleol yng Nghaerdydd wedi dod i Gymru o bedwar ban byd - o Ddwyrain Affrica, Byrma, Singapôr ac Iran nid yn unig yn uniongyrchol o'r Pwnjab.

Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 1,176
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 973
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 993
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

See also: