Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Clip fideo yn Saesneg. Swinder Chadha yn sôn am ei chefndir ieithyddol.

Cyfieithiad:

"Rwy'n siarad Pwnjabeg. Dyna'r famiaith rwy' wedi ei hetifeddu gan fy nheulu. Ond pan roeddem ni'n byw yn Delhi, Hindi ac Wrdw oedd yr ieithoedd, ac yn blentyn roeddwn i'n gallu eu dysgu nhw'n rhwydd. Felly ro'n i'n gallu siarad tair iaith yn fy mhlentyndod - Hindi, Wrdw a Pwnjabeg. Fe ddysges i Saesneg pan es i i'r ysgol a'r coleg.Dim ond Pwnjabeg y byddaf yn siarad gyda fy mhlant a'm gŵr gartref. Rwy' hefyd yn siarad Pwnjabeg pan af i i addoli yn ein Gurdhwara lleol bob dydd Sul. Fel arall Saesneg yw hi i gyd.Mae pobl o wahanol rannau o'r byd yn y Gurdhwara lle byddaf i'n mynd. Siciaid ydym ni i gyd, rydym ni i gyd yn siarad yr un fath o Pwnjabeg, ond mae gennym ni wahanol acenion. Daeth rhai i Gymru trwy wledydd yn Nwyrain Affrica, neu o Byrma neu Singapore, ac mae yna bobl o Iran, pobl yn syth o'r Pwnjab hefyd. Felly mae gennym i gyd wahanol acen, ond rydym ni oll yn deall yr iaith.Hyfforddi staff i ddeall amrywiaeth ddiwylliannol y byddaf i. Felly mae hynny yn mynd â fi at wahanol gyrff ac eto byddaf yn siarad gyda gwahanol bobl broffesiynol ynglŷn â sut i ddeall eu gweithwyr sydd wedi dod o wahanol rannau o'r byd, a pha fath o ymdriniaeth fyddai fwyaf derbyniol i'r rhan fwyaf, a sut i fynd o'i chwmpas hi. Dyma'r - ac wedyn bum yn dysgu hanes India i bobl hefyd. Mae hynny'n gwneud i mi ddeall bod holl bobloedd y byd yr un fath. Maen nhw'n edrych yn wahanol, mae'r lliwiau yn wahanol, mae'r ieithoedd yn wahanol, ac mae ganddyn nhw wahanol enwau ar gyfer duw, ond yn y pen draw bodau dynol ydym ni i gyd."

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw