Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn cael eu siarad yma hefyd. Fel dwy ran o dair o boblogaeth y byd, mae llawer o bobl yng Nghymru yn siarad mwy nag un iaith.

Mae'n anodd cael hyd i ystadegau am ieithoedd ar wahân i Gymraeg a Saesneg, gan nad oes cwestiwn amdanynt yn y cyfrifiad. Dangosodd arolwg gan CILT Cymru fod o leiaf 98 o ieithoedd yn cael eu siarad gan blant ysgol yn y wlad hon.

Yn 2006, fe gasglodd Amgueddfa Cymru enwau 78 o ieithoedd gan bobl oedd yn siarad yr ieithoedd hynny ac yn byw yng Nghymru, a'u harddangos ar wal mewn oriel. Cafodd y testun uchod ei ddangos fel rhan o'r arddangosfa hon, er mwyn dangos y gwahanol ieithoedd a siaredir ar draws y wlad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw